Afon Tiber
Oddi ar Wicipedia
Afon Tiber yn llifo dan Bont Sant Angelo yn Rhufain
Afon sy'n codi ym mynyddoedd yr Appeninau yn Yr Eidal ac yn llifo i Fôr Tirrenia yw Afon Tiber (Eidaleg: Tevere, Lladin: Tiberis). Ei hyd yw 405 km (252 milltir).
Mae'n tarddu ar lethrau deheuol yr Apeninau yn Toscana (Tuscany) ac yn llifo i'r de trwy Umbria a heibio i drefi a dinasoedd hanesyddol fel Sansepolcro, Citta di Castello, Perugia a Todi. Yn nhalaith Lazio mae'n ymdolenni trwy'r gwastadiroedd eang cyn cyrraedd dinas Rhufain lle mae sawl pont hanesyddol yn ei chroesi. Mae'r afon yn cyrraedd y môr yn Ostia, porthladd hynafol Rhufain.
Roedd yr afon yn dduw yn y pantheon Rhufeinig. Yn ôl traddodiad Albula oedd ei henw gwreiddiol, oherwydd gwynder ei dyfroedd, ond cafodd yr enw Tiberis ar ôl i Tiberinus, brenin Alba, foddi ynddi.