Potenza

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Potenza

Dinas yn ne yr Eidal a phrifddinas rhanbarth Basilicata yw Potenza. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 68,013, gyda 110,000 yn yr ardal ddinesig.

Saif y ddinas ym mynyddoedd yr Apenninau, uwchben dyffryn afon Basento ac i'r dwyrain o Salerno, 819 medr uwch lefel y môr. Roedd y ddinas wreiddiol, Potentia, yn sefydliad y Lucani ac yn sefyll ar dir is, tua 10 km i'r de o'r ddinas bresennol. Yr adeilad mwyaf nodedig yw'r eglwys gadeiriol.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys Sant Ffransis
  • Palazzo Loffredo
  • Torre Guevara