Roubaix
Oddi ar Wicipedia
Tref a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yw Roubaix (Iseldireg: Robaais). Saif yn département Nord. Roedd y boblogaeth yn 97,952 yn 2006, ac mae'n ffurfio ardal ddinesig gyda Lille a Tourcoing yn Ffrainc a Moeskroen dros y ffîn yng Ngwlad Belg.
Ar un adeg roedd Roubaix yn rhan o Ddugiaeth Fflandrys. Daeth yn rhan o Ffrainc yn 1677 ond fe'i meddiannwyd gan yr Iseldiroedd o 1708 hyd 1714.