Gogledd-ddwyrain Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gogledd-ddwyrain Lloegr
Gogledd-ddwyrain Lloegr
Lleoliad rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr
Daearyddiaeth
Arwynebedd 8 592 km² (8fed yn Lloegr)
NUTS 1 UKC
Demograffeg
Poblogaeth
— Cyfanswm

Dwysedd

2 515 442 (2001)
(9fed yn Lloegr)
293/km²
CMC y pen £13 275 (9fed yn Lloegr)
Llywodraeth
Pencadlys Newcastle upon Tyne
Cynulliad Cynulliad Rhanbarthol Gogledd-ddwyrain Lloegr
Etholaeth Senedd Ewrop Etholaeth Senedd Ewrop Gogledd-ddwyrain Lloegr
Gwefan

Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Gogledd-ddwyrain Lloegr. Mae'n cynnwys arwynebedd cyfun Northumberland, Swydd Durham, Tyne a Wear a rhan fach Gogledd Efrog.

Y Cheviot, yn Northumberland, yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth (815m). Newcastle yw ei brif ddinas, tra mai Sunderland yw'r ddinas fwyaf yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth. Yn ogystal â'i ardaloedd trefol – sef Tyneside, Wearside a Teesside – mae gan y rhanbarth harddwch naturiol nodedig, sy'n cynnwys Parc Cenedlaethol Northumberland. Mae'r rhanbarth o bwys hanesyddol hefyd, fel y tystiolaethir gan gestyll Northumberland a dau Safle Treftadaeth y Byd: Eglwys Gadeiriol Durham a Mur Hadrian.

Yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif, dirywiodd y diwydiant adeiladu llongau, a oedd wedi dominyddu Wearside a Tyneside, yn ddifrifol. Bellach y mae Tyneside yn ailddyfeisio ei hun fel canolfan ryngwladol ar gyfer celfyddyd a diwylliant, yn ogystal ag ymchwil wyddonol. Ar ôl dioddef dirywiad economaidd yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae Wearside yn dod yn ardal bwysig ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg uchel. Mae economi Teesside yn seiliedig ar ei ddiwydiant petrogemegol gan mwyaf. Mae Northumberland a Swydd Durham, sy'n wledig gan mwyaf, yn seilio rhan fawr o'u heconomi ar ffermio a thwristiaeth. Mae gan ranbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr CMC y pen isaf yn Lloegr.

Cysylltiadau allanol[golygu]

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato