Nürnberg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen ddinas Nürnberg o dŵr y Spittlertor

Dinas yn nhalaith Bafaria yn yr Almaen yw Nürnberg, hefyd Nuremberg. Saif ar Afon Pegnitz a Chamlas Rhein-Main-Donaw, tua 170 milltir i'r gogledd o München. Hi yw'r ddinas fwyaf yn Franconia, gyda phoblogaeth o 500,132 yn 2006.

Tyfodd y ddinas yn gyflym rhwng 1050 a 1571, gan ei bod ar lwybrau masnach pwysig. Roedd rhai o sefydliadau pwysicaf yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn cyfarfod yno. Ystyrir hi yn prifddinas y Dadeni Almaenig yn y 15fed a'r 16eg ganrif. Gwarchaewyd ar y ddinas yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a lleihaodd ei phwysigrwydd wedi'r rhyfel, hyd nes daeth yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn y 18fed ganrif.

Dewisodd y Natsïaid Nürnberg fel y safle ar gyfer ralïau anferth rhwng 1927 a 1938. Wedi'r Ail Ryfel Byd, yma y cynhaliwyd Treialon Nuremberg, pan roddwyd llawer o brif arweinwyr y llywodraeth Natsïaidd ar eu prawf.

Deil y ddinas i fod yn ganolfan ddiwydiannol bwysig, ac ei ffair deganau ryngwladol yw'r fwyaf yn y byd.

Pobl o Nürnberg[golygu]

Gweler hefyd[golygu]