Jefferson Davis
Oddi ar Wicipedia
Roedd Jefferson Finis Davis (3 Mehefin, 1808 - 6 Rhagfyr 1889) yn wleidydd yn yr Unol Daleithiau'r America a wasanaethodd fel Arlywydd Taleithiau'r Gynghrair (Taleithiau Cydffederal America neu'r Confederates) drwy gydol ei hanes, o 1861 hyd at 1865, yn ystod Rhyfel Cartref America.
Bywyd cynnar: y cysylltiad Cymreig [golygu]
Davis oedd yr ieuengaf o ddeg o blant gan Samuel Emory Davis (o Philadelphia, Pennsylvania, 1756 – Gorffennaf 4, 1824) a'i wraig Jane Cook, (o Kentucky, 1759 – Hydref 3, 1845), merch William Cook a'i wraig Sarah Simpson, merch Samuel Simpson (1706 – 1791) a'i wraig Hannah (g. 1710). Roedd ei daid, sef Evan Davis (1729 – 1758) yn dod o Gaerdydd ac wedi mewnfudo o Gymru i Virginia ac yna Maryland, cyn priodi Lydia Emory.