Ku Klux Klan
Rali Ku Klux Klan, Gainesville, Florida, 31 Rhagfyr 1922. |
|
| Bodolaeth | |
|---|---|
| Clan 1af | 1865–1870au |
| 2il Glan | 1915–1944 |
| 3ydd Clan 1 | ers 1946 |
| Aelodau | |
| Clan 1af | 550,000 |
| 2il Glan | rhwng 3 a 6 miliwn[1] (at ei anterth rhwng 1920–1925) |
| Priodweddau | |
| Tarddiad | Unol Daleithiau America |
| Ideoleg wleidyddol | Goruchafiaeth y dyn gwyn Cenedlaetholdeb y dyn gwyn Cynhenidiaeth Terfysgaeth Gristnogol[2][3][4][5] Neo-Gonffedyddiaeth Neo-ffasgaeth |
| Sefyllfa wleidyddol | De eithafol |
| Crefydd | Protestaniaeth |
| 1Mae'r trydydd clan wedi ei ddatganoli, gyda tua 179 pennod. | |
Ku Klux Klan, KKK ar lafar a The Klan yn anffurfiol, yw'r enw o dri sefydliad de eithafol[6][7][8][9] a oedd yn bodoli ac sy'n bodoli o hyd yn yr Unol Daleithiau. Maent yn adfocadu materion adweithiol eithafol megis goruchafiaeth y dyn gwyn, cenedlaetholdeb y dyn gwyn, a gwrth-fewnfudo, a weithredwyd yn hanesyddol drwy derfysgaeth.[10][11] Ers canol yr ugeinfed ganrif, mae'r KKK hefyd wedi bod yn gwrth-gomiwnyddol.[10] Dosberthir y mudiad yn a'i sawl enwad yn grŵp casineb.[12]
Dechreuodd y clan cyntaf yn Ne America yn y 1860au, ond daeth i'w ben erbyn y 1870au cynnar. Dechreuodd aelodau wisgo gwisgoedd gwynion: gynau, masgiau, a hetiau conig, a grëwyd i edrych yn anghysbell a dychrynllyd, ac i guddio'i hwynebau.[13] Dechreuodd yr ail KKK yn fyd-eang yn y 1920au cynnar, a gwisgo'r un gwisgoedd a geiriau côd â'r clan cyntaf, a dechrau llosgi croesau ar yr un pryd.[14] Dechreuodd y trydydd KKK ar ôl Ail Ryfel Byd a chymdeithaswyd nhw â gwrthwynebu mudiadau iawnderau sifil a chynydd ymysg grwpiau lleiafrifol. Cyfeiriodd y ail a thrydydd Ku Klux Klan yn aml at waed "Celtaidd" ac "Eingl-Sacsonaidd" America, sy'n atgoffa o gynhenidiaeth y 19eg ganrif a chwyldroadwyr trefedigaethol Prydeinig y 18fed ganrif.[15] Mae pob grŵp yn adnabyddus am derfysgaeth.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ McVeigh, Rory. "Structural Incentives for Conservative Mobilization: Power Devaluation and the Rise of the Ku Klux Klan, 1915–1925". Social Forces, Cyf. 77, Rhif 4 (Mehefin., 1999), t. 1463
- ↑ Al-Khattar, Aref M. (2003). Religion and terrorism: an interfaith perspective (yn en). Westport, CT: Praeger, tud. 21, 30, 55
- ↑ Michael, Robert, a Philip Rosen. Dictionary of antisemitism from the earliest times to the present. Lanham, Maryland, UDA: Scarecrow Press, 1997 t. 267.
- ↑ Wade, Wyn Craig (1998). The fiery cross: the Ku Klux Klan in America (yn en). UDA: Gwas Prifysgol Rhydychen, tud. 185. URL
- ↑ Robb, Thomas. [1] "The Knights Party, UDA." Cyrchwyd Mawrth 22, 2011
- ↑ O'Donnell, Patrick (Editor), 2006. Ku Klux Klan America's First Terrorists Exposed, p. 210. ISBN 1419649787.
- ↑ Chalmers, David Mark, 2003. Backfire: How the Ku Klux Klan Helped the Civil Rights Movement, p. 163. ISBN 9780742523111.
- ↑ Berlet, Chip; Lyons, Matthew Nemiroff (2000). Right-wing populism in America: too close for comfort. Guilford Press. p. 60. ISBN 9781572305625.
- ↑ Rory McVeigh, The rise of the Ku Klux Klan: right-wing movements and national politics organizations. University of Minnesota Press. 2009.
- ↑ 10.0 10.1 Charles Quarles, The Ku Klux Klan and related American racialist and antisemitic organizations: a history and analysis, McFarland, 1999
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'Economist20110402 - ↑ Mae'r Anti-Defamation League a'r Southern Poverty Law Center yn cynnwys y mudiad yn eu rhestri o grwpiau casineb. Gweler hefyd Bfrian Levin, Brian "Cyberhate: A Legal and Historical Analysis of Extremists' Use of Computer Networks in America" yn Perry, Barbara, golygydd. Hate and Bias Crime: A Reader. t. 112 t. Google Books
- ↑ Elaine Frantz Parsons, "Midnight Rangers: Costume and Performance in the Reconstruction-Era Ku Klux Klan." Journal of American History 92.3 (2005): 811–36
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'Wade - ↑ Michael Newton, The Invisible Empire: The Ku Klux Klan in Florida
Gweler hefyd[golygu]