Huw T. Edwards

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb Huw T Edwards yn Ro-wen

Undebwr llafur a gwleidydd sosialaidd a chenedlaetholgar oedd Huw T. Edwards (Hugh Thomas Edwards ar ei dystysgrif geni) (19 Tachwedd 1892 - 8 Tachwedd 1970). Cafodd marwolaeth ei fam yn Mehefin 1901 gryn ddylanwad arno weddill ei oes.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed ef yn Ro-wen, Dyffryn Conwy yn fab i Hugh Edwards ac Elizabeth Williams. Cafodd marwolaeth ei fam pan oedd yn wyth mlwydd oed gryn effaith arno a chafodd fawr o addysg o werth. Ailbriododd y tad o fewn chwe mis i fam Huw T. farw, priodi â gweddw 30 oed. Ni fu Huw a'i lys fam erioed yn agos. Plentyndod digon anodd gafodd Huw T.[1] Gweithiodd ar ffermydd ac yn chwareli ithfaen yr ardal cyn mudo i dde Cymru yn 1909, lle y bu'n gweithio yn y pyllau glo. Daeth yn aelod o gapel yr Annibynwyr, Bethania Aberfan tua 1913.

Roedd ymhlith y cyntaf i'w alw i danchwa Senghennydd aci ddisgyn i'r pwll i chwilio am unrhyw rai oedd wedi goroesi'r ddamwain.

Ymunodd â'r Army Special Reserve (ASR) yn 1911 a chael ei hyfforddi yn Preston. Gan ei fod yn aelod o'r Cefnlu galwyd ef i'r rhengoedd ar ddiwrnod cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei glwyfo yn 1918. Wedi hynny dychwelodd i fyw i'r gogledd, gan weithio yn chwareli ithfaen ardal Penmaenmawr.

Yn yr 1920au daeth yn swyddog undeb, yn drefnydd etholiadol gyda'r Blaid Lafur ac yn gynghorydd tre. Yn 1932 cafodd swydd gyda'r TGWU gan symud i fyw i Shotton, Sir y Fflint. Am gyfnod maith roedd yn un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y mudiad llafur yng ngogledd Cymru.

Penodwyd ef yn gadeirydd Cyngor Cymru a Mynwy yn 1949 gan aros yn y swydd tan ei ymddiswyddiad dadleuol yn 1958. Yn 1959 gadawodd y Blaid Lafur ac ymuno a Phlaid Cymru, ond dychwelodd i'w hen blaid yn 1965.

Roedd wedi dadlau o blaid sefydlu senedd i Gymru er 1944. Yn ystod cyfnod ei gadeiryddiaeth o Gyngor Cymru, pwyswyd ar y llywodraeth Geidwadol i sefydlu'r swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ni lwyddwyd i wireddu hyn yn yr 1950au ond yn 1964 sefydlwyd y swydd gan y llywodraeth Lafur a etholwyd yn y flwyddyn honno.

Bu'n gyfarwyddwr y cwmni teledu masnachol TWW ac yr oedd ymhlith y cyntaf i alw am sefydlu sianel deledu Gymraeg. Yn 1956 achubodd y papur newydd Y Faner a oedd mewn trafferthion ariannol.

Bu farw yn 1970. Gosodwyd cofeb iddo yn Ro-wen yn 1992.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyhoeddodd ddwy gyfrol hunangofiannol:

  • Tros y Tresi (1956)
  • Troi'r Drol (1963)

Cyhoeddwyd cofiant iddo yn 2007:

  • Gwyn Jenkins: Prif Weinidog Answyddogol Cymru: cofiant Huw T Edwards (Y Lolfa, 2007)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Prif Weinidog Answyddogol Cymru sef Cofiant Huw T. Edwards Gwyn Jenkins 2007 Y Lolfa