Y Faner

Oddi ar Wicipedia
Y Faner
Enghraifft o'r canlynolpapur wythnosol, papur newydd Edit this on Wikidata
GolygyddThomas Gee Edit this on Wikidata
CyhoeddwrThomas Gee Edit this on Wikidata
Rhan oPapurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi4 Mawrth 1857 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMathonwy Hughes, Emyr Price, Gwilym R. Jones Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1857 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiDinbych Edit this on Wikidata
PerchennogThomas Gee Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifPapurau Newydd Cymreig Ar-lein, British Newspaper Archive Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
RhagflaenyddYr Amserau Edit this on Wikidata
Cyfrol 1, rhif 1; blaendudalen rhifyn cyntaf o Faner ac Amserau Cymru; 4 Mawrth 1857

Papur newydd wythnosol, rhyddfrydol Cymraeg a gyhoeddid yn Ninbych oedd Y Faner a sefydlwyd yn 1843 gan Thomas Gee. Cyfunwyd y papur gyda phapur arall, Amserau Cymru a gyhoeddwyd yn Lerpwl, yn 1859 gan y cyhoeddwyr Gwasg Gee i greu Baner ac Amserau Cymru. Roedd yn wythnosolyn anghydffurfiol a oedd yn ymwneud â materion cyfoes.

Daeth Baner ac Amserau Cymru yn ddylanwad grymus ym mywydau'r darllenwyr. Roedd yn Rhyddfrydol ei agwedd a bu'n gefn i'r werin mewn achosion Radicalaidd gan amddiffyn Ymneilltuaeth ar bob cyfle. Am rai blynyddoedd o 1861 ymlaen cyhoeddwyd y papur ddwywaith yr wythnos, a llwyddodd ei berchennog i ddenu nifer o newyddiadurwyr galluog i weithio i'r papur, pobl fel John Griffith ('Y Gohebydd'). Penodwyd ef yn ohebydd Llundain i'r 'Faner', a threuliai lawer o'i amser yn gwrando ar ddadleuon y Senedd a mynychu cyfarfodydd gwleidyddol ledled Cymru.

Y llenor T. Gwynn Jones oedd is-olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1890. Gweithiodd William Thomas (Islwyn) a Gwilym R. Jones ar y papur am gyfnod. Bu Hafina Clwyd hefyd yn is-olygydd a golygydd Y Faner.[1]

Cyhoeddwyd Y Faner hyd 1 Ebrill 1992,[2] cyn ei ail-fedyddio'n Y Faner Newydd tua 1997.[3]

Llinell amser[golygu | golygu cod]

  • Yr Amserau (1843-1859)
  • Baner Cymru (1857-1859)
  • Y Faner (1972-1992).

Papurau eraill a oedd yn perthyn i tua'r un cyfnod[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]