Dyffryn Conwy

Oddi ar Wicipedia
Dyffryn Conwy
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.23512°N 3.80711°W Edit this on Wikidata
Map
Dyffryn Conwy o'r llethrau uwchben Rowen.

Mae Dyffryn Conwy yn ddyffryn yng ngogledd Cymru a ffurfir gan Afon Conwy, sy'n llifo o'r de i'r gogledd rhwng Betws y Coed a'r môr. Ceir mynyddoedd y Carneddau ar ochr orllewinol y dyffryn, a chyfres o fryniau is ar yr ochr ddwyreiniol. Ar lan ddwyreiniol yr afon mae'r briffordd A470 yn arwain o Landudno tua'r de i dref Llanrwst cyn troi i'r gorllewin i adael y dyffryn ychydig i'r de o bentref Betws y Coed. Mae'r ffordd yma yn mynd trwy Cyffordd Llandudno, Llansanffraid Glan Conwy a Tal-y-Cafn. Ar lan orllewinol yr afon mae'r ffordd B5106 yn arwain o Gonwy trwy Ty'n-y-groes, Caerhun, Tal-y-Bont, Dolgarrog a Threfriw cyn cyrraedd Llanrwst. Ceir pontydd dros yr afon gerllaw Conwy, Tal-y-Cafn a Llanrwst. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy, gyda nifer o orsafoedd, ar ochr ddwyreiniol yr afon yn rhan fwyaf y dyffryn, ond mae hi'n croesi i'r ochr orllewinol tua'r de o Lanrwst.