Llanrwst

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°08′14″N 3°47′38″W / 53.13712°N 3.79378°W / 53.13712; -03.79378

Llanrwst
LlanrwstP6073120.JPG
Tu Hwnt i'r Bont
Llanrwst is located in Conwy
Llanrwst

 Llanrwst yn: Conwy
Poblogaeth 3,037 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SH800615
Cymuned Llanrwst
Prif ardal Conwy
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANRWST
Rhanbarth cod post LL26
Cod deialu 0149264
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Aberconwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Conwy
Llanrwst o Goedwig Gwydyr.
Y Bont Fawr, Llanrwst.

Mae Llanrwst yn dref fechan ar lan ddwyreiniol Afon Conwy yn Sir Conwy, tri chwarter y ffordd i fyny Dyffryn Conwy ar lôn yr A470, yng ngogledd Cymru. Mae Caerdydd 188.8 km i ffwrdd o Lanrwst ac mae Llundain yn 308.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25 km i ffwrdd.

Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn cysylltu'r dref â Llandudno yn y gogledd a Blaenau Ffestiniog yn y de. Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant gwlân ac roedd y dref yn adnabyddus am ei brethyn. Roedd gwneud telynnau yn ddiwydiant poblogaidd yno hefyd ac roedd galw mawr am gynnyrch gwneuthurwyr telynnau Llanrwst ledled Cymru. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ynghyd ag amaethyddiaeth. Lleolir Gwasg Carreg Gwalch, un o gyhoeddwyr llai mwyaf llwyddianus Cymru, yn y dref.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Codwyd Y Bont Fawr dros Afon Conwy yn 1636. Y pensaer oedd Inigo Jones, yn ôl traddodiad. Yr ochr draw i'r bont mae plasdy hardd Tu Hwnt i'r Bont.

Yr Eglwys [golygu]

Adeiladwyd yr eglwys, sy'n gysegredig i Sant Crwst, yn 1170, ond mae'r safle'n hŷn na hynny. Yn yr eglwys mae Capel Gwydir ac yno ceir gweld beddrod Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a symudwyd yno o Abaty Aberconwy. Yno hefyd mae beddrod cerfiedig sy'n coffháu Hywel Coetmor.

Enwogion [golygu]

11 o feirdd a bwch gafr yn 1876.

Eisteddfod Genedlaethol [golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ym 1951 a 1989. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfrifiad 2011 [golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanrwst (pob oed) (3,323)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrwst) (1,943)
  
61%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrwst) (2539)
  
76.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sy'n ddiwaith (Llanrwst) (591)
  
40.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau [golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd [golygu]

Enwogion [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: