Trefriw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Trefriw
Conwy
WalesConwy.png
Red Dot.gif

Pentref a chymuned yw Trefriw a leolir ar lan orllewinol Afon Conwy yn Sir Conwy. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 1338, gyda union 50% yn siarad Cymraeg.

Mae Trefriw ychydig i'r gogledd-orllewin o dref Llanrwst ac ychydig i'r de o'r gaer Rufeinig Canovium (Caerhun). Rhedai'r ffordd Rufeinig Sarn Helen trwy Trefriw, er nad oes olion ohoni i'w gweld yn yr ardal yma. Yn y pentref mae Afon Crafnant yn ymuno ag Afon Conwy ar ôl llifo i lawr o Lyn Crafnant. Rhed ffin Parc Cenedlaethol Eryri trwy'r pentref, gyda'r rhan fwyaf ohono yn y parc.

Heblaw bod yn rhywfaint o ganolfan wyliau, mae Trefriw yn enwog am y felin wlân a'r spa, oedd yn cael ei defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig ac a ddaeth yn adnabyddus yn y 18fed ganrif. Dywedir fod gan Llywelyn Fawr lety hela yma yn y 13eg ganrif; yn ôl John Leland roedd yn sefyll yn 1536, ond does dim i'w weld ohono rwan. Y mae lle ar bwys y pentref a elwir 'Y Neuadd' ac yn ôl traddodiad lleol ar y llecyn hwnnw y safai llys Llywelyn. Mae traddodiad iddo adeiladu eglwys wreiddiol Trefriw oherwydd bod ei wraig Siwan yn blino cerdded i eglwys Llanrhychwyn. Maerdref cwmwd Nant Conwy, Cantref Arllechwedd, oedd Trefriw yr adeg hynny.

Yn y 19eg ganrif roedd llongau gweddol o faint yn medru hwylio i fyny Afon Conwy cyn belled â Threfriw, lle'r oedd cei. Gyrrid nwyddau i lawr yr afon a byddai stemar yn cludo twristaid i'r pentref, ond daeth hyn i ben ddiwedd y 1930au.

Enwogion [golygu]

Afon Crafnant yn Nhrefriw

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Morris Jones (1879) Hanes Trefriw: fel y bu ac fel y mae, disgrifiad cryno o'r ardal a'r trigolion (W.J. Roberts)
  • E.D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)

Cysylltiadau allanol [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: