Llyn Geirionydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pen gogleddol Llyn Geirionydd.
Pen deheuol Llyn Geirionydd.

Llyn yn sir Conwy yw Llyn Geirionydd (weithiau Llyn Geirionnydd). Saif ar ochr ogleddol Coed Gwydyr. Mae bron filltir o hyd, gydag arwynebedd o 45 acer a dyfnder o tua 50 troedfedd yn y man dyfnaf. Llifa Afon Geirionydd o'r llyn i ymuno ag Afon Crafnant.

Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd o Drefriw heibio pentref Llanrhychwyn, neu o dref Llanrwst. Gellir cerdded o ardal Llyn Crafnant dros Fynydd Deulyn. Ceir maes parcio ger y llyn, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Ychydig o bysgod sydd yn y llyn; credir fod llygredd o'r cloddfeydd metel yn y cyffiniau yn parhau.

Llyn Geirionydd yw'r unig lyn yn Eryri lle caniateir cychod modur a sgïo dŵr; mae rhai grwpiau yn ymgyrchu dros gael gwahardd y gweithgareddau yma ar y llyn, gan ddadlau eu bod yn tarfu ar yr heddwch.

Cysylltiadau llenyddol[golygu]

Ceir traddodiad poblogaidd yng Nghymru sy'n cysylltu Taliesin a Llyn Geirionnydd, ond mae'n draddodiad diweddar a dyfodd o gamddarllen llinell yn y gerdd 'Anrheg Urien',

Mineu Dalyessin o iawn llyn gerionnyd,

a ddehonglwyd fel 'Minnau, Taliesin, o lan Llyn Geirionnydd'. Ond dangosodd Ifor Williams mai iawn-llin ("gwir linach") yw'r darlleniad (mae geirionyd yn hen ffurf ar ceraint).

Llyfryddiaeth[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Jonah Jones "The Lakes of North Wales" (Whittet Books Ltd, 1987)
  • Geraint Roberts "The Lakes of Eryri" (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)