Eryri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eryri
Ardal warchodedig
Gwlad Cymru
Cynghorau Gwynedd, Conwy
Lleoliad Cymru
Pwynt uchaf Yr Wyddfa
 - codiad 1,085 m (3,560 ft)
 - cyfesurynnau 53°4′8″N 4°4′32″W / 53.06889°N 4.07556°W / 53.06889; -4.07556
Categori IUCN V - Protected Landscape/Seascape
Erthygl am yr ardal draddodiadol yw hon. Gweler hefyd Parc Cenedlaethol Eryri.
"Yr Wyddfa a'i chriw" o gopa'r Glyder Fawr. Lliwedd ar y chwith, copa'r Wyddfa ar y dde, Garnedd Ugain ar y dde eithaf.

Rhanbarth o ogledd Cymru yw Eryri. Mae'n gartref i fynyddoedd uchaf Cymru. Yn draddodiadol defnyddir yr enw am fynyddoedd Arfon, gyda'r Wyddfa fel canolbwynt, ac yn cynnwys Glyderau, y Carneddau, Crib Nantlle, Moel Hebog a Moel Siabod. Ers ffurfio Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cynnwys ardaloedd tu allan i'r Eryri draddodiadol, er enghraifft ym Meirionnydd, mae tuedd wedi bod gan rai, yn enwedig o'r tu allan i Gymru, i gyfeirio at y cyfan o ardal y Parc fel "Eryri" ond mae'r Parc Cenedlaethol dros ddwywaith mwy ei faint na'r Eryri go iawn. Ffiniau'r Eryri draddodiadol, yn fras, yw'r briffordd A487 o Gaernarfon trwy Borthmadog cyn belled a Maentwrog yn y gorllewin a'r de, y briffordd A470 ymlaen i Fetws y Coed yn y de-ddwyrain ac Afon Conwy yn y dwyrain.

Yr enw[golygu]

Tryfan

Mae'n gred boblogaidd fod yr enw Eryri yn golygu 'Gwlad yr Eryrod,' ond mae Ifor Williams wedi profi mai 'Ucheldir' yw'r ystyr. 'Eryrod' yw lluosog arferol y gair 'eryr'; ni cheir enghraifft o'r ffurf 'eryri' am 'eryrod.' Mae eryr ac Eryri yn tarddu o'r un gwreiddyn ieithyddol, serch hynny. O'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd -er/-or ('codi') y daw'r gair Cymraeg eryr a'r gair Groeg oros ('mynydd'). Ceir enghraifft o'r gair eryr yn Llyfr Du Caerfyrddin yn yr ystyr 'glan (afon neu fôr).' Codiad tir yw 'eryr(i)' felly, 'tir uchel' neu 'ucheldir'.[1]

Dros y canrifoedd mae sawl bardd a llenor wedi mabwysiadu enw barddol sy'n cynnwys y gair Eryri. Yr enghraifft gynharaf yw'r bardd canoloesol Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448), a oedd yn frodor o ardal Beddgelert. Yn ddiweddarach cafwyd Dafydd Ddu Eryri (1759-1822) yn arddel yr enw.

Er nad felly y tarddodd yr enw, mae traddodiad a sylwadau gan deithwyr yn awgrymu yr arferai yr Eryr Aur nythu yn Eryri, efallai hyd y 18fed ganrif.

Daearyddiaeth[golygu]

Carnedd Llywelyn dan eira.

Canolbwynt Eryri yw copa'r Wyddfa. O'i gwmpas mae chwe chefnen hir. Nodweddir y llethrau sy'n wynebu'r gogledd a'r dwyrain gan glogwynau syrth ond mae'r llethrau sy'n wynebu'r de a'r gorllewin yn tueddu i fod yn llai syrth a chreigiog ac yn fwy agored a glaswelltog. Rhwng y cefnennau mae cymoedd wedi eu llunio yn ystod Oes yr Iâ, rhai ohonynt â llynnoedd ynddynt. Yr uchaf o'r mynyddoedd yw'r Wyddfa (1,085m); ymhlith y copaon o'i chwmpas mae Carnedd Ugain (1,065 m), Crib Goch (923 m), Y Lliwedd (898 m) a'r Aran (747 m).

I'r gogledd-ddwyrain o'r Wyddfa, tu draw i Fwlch Llanberis, mae mynyddoedd y Glyderau; y prif gopaon yma yw'r Glyder Fach (994m), Glyder Fawr (999 m) a Tryfan (915m). I'r gogledd o'r Glyderau, tu draw i Lyn Ogwen a Nant Ffrancon mae prif gadwyn y Carneddau yn ymestyn tua'r gogledd-ddwyrain, gan orffen nepell o'r môr uwchben Abergwyngregyn. Y prif gopaon yn y Carneddau yw Carnedd Llywelyn (1,064m), Carnedd Dafydd (1,044m) a Pen yr Ole Wen (978m).

Llyn Glaslyn o'r Wyddfa, gyda Llyn Llydaw yn y cefndir.

I'r gorllewin o'r Wyddfa, mae Mynydd Mawr ar ei ben ei hun, a'r ochr arall i bentref Rhyd Ddu mae Crib Nantlle yn ymestyn tua'r de-orllewin. Tua'r de mae Moel Hebog. Tua'r de-ddwyrain, yr ochr draw i Nant Gwynant mae Cnicht, y Moelwyn Mawr a'r Moelwyn Bach, ac i'r dwyrain o'r Wyddfa mae Moel Siabod.

O ran daeareg, creigiau Ordoficaidd sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r mynyddoedd, ond daw creigiau Cambriaidd i'r wyneb yn y gogledd-orllewin, i ffurfio mynyddoedd megis Elidir Fawr a Moel Eilio. Gellir gweld olion rhewlifoedd o Oes yr Iâ yn glir mewn llawer man yn Eryri; mae Cwm Idwal yn enghraifft glasurol.

Oherwydd uchder y mynyddoedd a'i safle yn agos i'r arfordir gorllewinol, mae Eryri yn cael llawer o law; ac ystyrir Capel Curig er enghraifft yn un o'r mannau gwlypaf ym Mhrydain. Er nad yw'r glaw yn cael ei fesur yn rheolaidd, credir fod y llethrau o gwmpas Llyn Llydaw ar yr Wyddfa yn cael mwy o law fyth, heb fod ymhell o 5000 mm y flwyddyn. Mae nifer o afonydd yn tarddu yn Eryri, yn arbennig Afon Glaslyn, Afon Ogwen ac Afon Llugwy, sy'n llifo i Afon Conwy. Ceir nifer fawr o lynnoedd yn Eryri; y mwyaf ohonynt yw Llyn Padarn (280 acer), Llyn Cowlyd (269 acer), Llyn Cwellyn (215 acer), Llyn Eigiau (120 acer) a Llyn Llydaw (110 acer).

Y Carneddau o gopa Moel Siabod. O'r chwith i'r dde: Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, Pen yr Helgi Du (gyda Foel Grach a Foel Fras tu ôl), Pen Llithrig y Wrach a Creigiau Gleision.

Parc Cenedlaethol Eryri[golygu]

Map o Barc Cenedlaethol Eryri

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ar 18 Hydref 1951 yn dilyn Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.[2] Roedd ei ffiniau wedi'u dynodi flwyddyn ynghynt yn dilyn argymhellion Comisiwn y Parc Cenedlaethol lle gwasanaethodd Syr Clough Williams-Ellis fel aelod. Gan mai un o brif feini prawfar gyfer cynnwys tir o fewn y Parc oedd "harddwch golygfaol eithriadol", roedd rhai ardaloedd trefol wedi eu gwahardd, ac y tu allan i'w ffiniau.

Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (837 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.

Sefydlwyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 1996, ac a ddiffinniodd bwrpas y parc, sef:

  1. gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc; a
  2. hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc.

Mae'r tir cyhoeddus a'r tir preifat ill dau o dan reolaeth yr un awdurdod cynllunio.

Bywyd Gwyllt[golygu]

Coedwig a llechweddau moel yn Nant Gwynant, yn edrych tua'r de-orllewin; Llyn Gwynant yn y canol.

Er bod tirwedd Eryri yn ymddangos yn wyllt, mae dylanwad dyn yn drwm arno. Yn wreiddiol roedd coedwigoedd yn tyfu ar y rhan fwyaf o'r llethrau, heblaw y llethrau uchaf un. Y rhywogaethau nodweddiadol oedd derw, ynn, bedw, cyll a chriafolen. Erbyn hyn mae'r coed wedi diflannu oddi ar lawer o'r llethrau, ac mae pori gan ddefaid yn eu cadw yn laswelltir. Plannwyd llawer o goed bytholwyrdd yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig Coedwig Gwydyr ar lethrau dwyreiniol Eryri o gwmpas Betws y Coed a Choedwig Beddgelert.

Ar y clogwyni lle na all y defaid gyrraedd, er enghraifft ar Glogwyn Du'r Arddu ar yr Wyddfa a chlogwyni Cwm Idwal, ceir amrywiaeth ddiddorol o blanhigion arctig-alpaidd, rhai ohonynt yn eithriadol o brin. Yr enwocaf o'r rhain yw Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina); Eryri yw'r unig fan ym Mhrydain lle ceir y planhigyn yma. Dim ond yn Eryri y ceir Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis).

Mae'r Fran Goesgoch yn un o adar nodweddiadol Eryri.

Heblaw gor-bori gan ddefaid, un o'r prif broblemau yw tŵf Rhododendron ponticum mewn rhai rhannau o Eryri, er enghraifft yn ardal Beddgelert. Mae'r planhigyn yma yn medru lledaenu'n gyflym, ac yn cael effaith andwyol ar y llystyfiant naturiol. Erbyn hyn mae ymdrechion i'w ddifa wedi lleihau'r broblem rywfaint. Gall y nifer fawr o gerddwyr a dringwyr hefyd greu problemau yn y mannau mwyaf poblogaidd.

Y brithyll yw'r pysgodyn mwyaf cyffredin yn afonydd a llynnoedd Eryri, ond yn ambell un o'r llynnoedd dyfnaf ceir y Torgoch. Ymhlith adar nodweddiadol Eryri mae Tinwen y Garn, Corhedydd y waun, Mwyalchen y Mynydd, y Frân Goesgoch a'r Gigfran; mae nifer dda o barau o'r Hebog Tramor yn nythu ar y clogwyni yma hefyd.

Y prinnaf o famaliaid Eryri yw'r Bela (Martes martes), yn wir, er fod cryn nifer o bobl wedi adrodd eu bod wedi gweld y Bela yn Eryri yn y blynyddoedd diwethaf, nid oes neb wedi llwyddo i gael llun i brofi hyn. Gellir gweld geifr gwylltion yn aml ar y llechweddau; mae'r rhain yn ddisgynyddion geifr wedi dianc o ffermydd. Mae rhannau o Eryri yn gartref i'r merlyn mynydd Cymreig; maent yn arbennig o niferus ar lethrau gogleddol y Carneddau, lle ceir rhwng 200 a 300.

Hanes a diwylliant[golygu]

Maen y Bardd

Yn ystod y cyfnod Neolithig, ymddengys mai o gwmpas godreuon Eryri yr oedd presenoldeb dynol. Ymysg yr olion o'r cyfnod hwn mae siambr gladdu Maen y Bardd ar ochr ddwyreiniol y Carneddau, ac olion tŷ yn Llandegai ger Bangor. Yn ystod rhan gyntaf Oes yr Efydd roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach, gan wneud y tir uchel yn fwy atyniadol. Ceir llawer o weddillion tai a chladdfeydd o'r cyfnod hwn, er enghraifft yng Ngwm Anafon uwchben Abergwyngregyn ac yng Nghwm Ffrydlas uwchben Bethesda. Yn y cyfnod yma y codwyd y meini hirion megis y rhai ym Mwlch y Ddeufaen, ac y codwyd llawer o'r carneddi a welir ar fynyddoedd a bryniau Eryri.

Nid oes cymaint o olion o Oes yr Haearn ar y tir uchel; nid oedd y tywydd mor ffafriol erbyn hyn ac roedd mawnog yn dechrau ffurfio. Ceir cryn nifer o fryngeiri o gwmpas godreuon Eryri, er enghraifft Braich-y-Dinas ger Penmaenmawr a Pen y Gaer gerllaw Llanbedr-y-cennin. Adeiladodd y Rhufeiniaid hefyd nifer o geiri i warchod gororau Eryri, megis Segontium, Caerhun a Thomen y Mur.

Roedd Castell Dolbadarn yn gwarchod un o'r mynedfeydd i galon Eryri.

"Cadernid Eryri" oedd calon teyrnas Gwynedd. Yn 1230 mabwysiadodd Llywelyn Fawr y teitl 'Tywysog Gwynedd ac Arglwydd Eryri' (Princeps Northwallie et Dominus Snowdonia) a defnyddiwyd teitl cyffelyb gan Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1258. Codwyd cestyll oddi amgylch Eryri gan y tywysogion, yn Nolwyddelan, Cricieth a Dolbadarn.

Yn niogelwch y mynyddoedd megid gwartheg y tywysogion mewn porfeydd brenhinol arbennig (vaccarii) er mwyn cael stôr o gig i'r fyddin pan fo rhaid. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf at Eryri ym marddoniaeth Gymraeg yn y cyd-destun hyn, ym marwnad y bardd Meilyr Brydydd i Gruffudd ap Cynan: 'Dybu brenin Lloegr yn lluyddawg, / Cyd doeth ef nid aeth yn warthegawg; / Ni yn Eryri yn rheïawg, / Ni thorres i bawr a fu breiddiawg.' (Daeth Brenin Lloegr yn fyddinog, / Er iddo ddod nid aeth ag anrhaith wartheg; / [Yr oeddem] ni yn Eryri yn oludog, / Ni thorrodd [Brenin Lloegr] i mewn i borfa a fu'n llawn preiddiau.)[3]

Ar ôl cwymp y tywysogion parhaodd enw a thraddodiadau Eryri yn fyw dros y canrifoedd.

Economi[golygu]

Lefelau a thomennydd sbwriel Chwarel Dinorwig.

Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw'r diwydiannau pwysicaf yn Eryri ar hyn o bryd. Mae amaethyddiaeth wedi bod yn bwysig ers canrifoedd, ond gan nad yw'r rhan fwyaf o Eryri yn addas ar gyfer tyfu cnydau, canolbwyntir ar gadw da byw. Defaid yw'r mwyaf cyffredin o'r rhain bellach, ond yn y gorffennol roedd gwartheg yn fwy niferus, yn arbennig y Gwartheg Duon Cymreig, sydd wedi eu datblygu i fedru byw ar y llechweddau. Ar un adeg arferid mynd a'r da byw i fyny i'r "hafod" ar y llechweddau uchaf i bori yn ystod yn haf, ac yna eu symud i lawr i'r "hendre" ar dir is dros y gaeaf. Yn y 18fed ganrif byddai'r porthmyn yn eu gyrru i Loegr i'w gwerthu.

O ddiwedd y 18fed ganrif hyd ddechrau'r 20fed ganrif roedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn yn Eryri, a cheid rhai o chwareli llechi mwyaf y byd ar lechweddau isaf rhai o fynyddoedd Eryri, megis Chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig. Ychydig iawn o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant yma bellach, ond mae tomennydd sbwriel y chwareli yn parhau yn nodweddiadol o'r ardal. Bu nifer o fwyngloddiau copr yn Eryri hefyd yn y cyfnod yma.

Dringo mynyddoedd[golygu]

Y Grib Goch

Mae Eryri yn ardal boblogaidd iawn ar gyfer mynydda. I ddringo'r Wyddfa y llwybr mwyaf poblogaidd yw Llwybr Pen-y-Gwryd, sy'n dechrau o westy Gorffwysfa, Pen-y-pas, uwchben Bwlch Llanberis. Mae'n hen lwybr mwynwyr sydd yn mynd heibio Llyn Llydaw a'r Glaslyn ac wedyn yn dringo'n igam-ogam i fyny Bwlch Glas. Y llwybr anoddaf i ddringo'r Wyddfa yw Pedol yr Wyddfa, sy'n golygu dringo Crib Goch gyntaf, yna copa'r Wyddfa ei hun cyn dychwelyd i Ben-y-pas dros gopa Lliwedd. Mae'r Glyderau hefyd yn boblogaidd iawn, yn enwedig Tryfan, yr unig fynydd yng Nghymru, fe ddywedir, lle mae'n rhaid defnyddio'r dwylo yn ogystal a'r traed i gyrraedd y copa. Llwybr poblogaidd arall yn y Glyderau yw'r llwybr heibio Llyn Idwal a'r Twll Du i ben y Glyder Fach a'r Glyder Fawr. Ceir llawer llai o ddringwyr ar y rhannau llai adnabyddus o Eryri, megis Crib Nantlle. Mae poblogrwydd rhai o'r llwybrau wedi creu problem erydu, ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwneud cryn dipyn o waith i sefydlogi rhai ohonynt.

Mae clogwynnau Eryri wedi chwarae rôl bwysig yn hanes dringo mynyddoedd Prydain. Ymhlith y cyntaf i ddringo mynydd yn yr ardal oedd y Parchedig Peter Williams a'r Parchedig William Bingley oedd yn arfer dringo Clogwyn Du'r Arddu wrth chwilio am blanhigion arctig-alpaidd ym 1798. Lliwedd oedd pwnc y llawlyfr dringo (yn hytrach na cherdded mynyddoedd) cyntaf i'w gyhoeddi ym Mhrydain yn 1909, The climbs on Lliwedd gan J. M. A. Thomson ac A. W. Andrews. Ers hynny mae Eryri wedi parhau'n gyrchfan boblogaidd i ddringwyr; er enghraifft yn Eryri y bu'r tîm a ddringodd Mynydd Everest am y tro cyntaf yn 1952 yn ymarfer cyn yr ymgyrch.

Rhan o Eryri o gopa Mynydd Mawr; yr Wyddfa a'i chriw, gyda'r Glyderau i'w gweld yn y cefndir.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams, Enwau lleoedd (Lerpwl, 1945), t. 18.
  2. Gwefan y Parc; adalwyd 2 Mehefin 2014
  3. J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (Caerdydd, 1994). Tud. 77/79.

Darllen Pellach[golygu]

  • H. C. Carr & G. A. Lister, The Mountains of Snowdonia (Crosby Lockwood, Llundain, 1925)
  • W. M. Condry, The Snowdonia National Park (Collins, Llundain, 1966). Cyfres New Naturalist.
  • Amory Lovins, Eryri, the Mountains of Longing (Llundain, 1972)
  • F. J. North (gol.), Snowdonia (Llundain, 1949)
  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybïe, 1965)
  • Brinley Roberts, The geology of Snowdonia and Llŷn: an outline and field guide (1979)
  • Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0
  • Dewi Tomos, Eryri (Cyfres broydd Cymru 16, Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995) ISBN 086381994x

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: