Beddgelert
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng Ngwynedd yw Beddgelert. Fe'i lleolir ar lecyn deniadol iawn yng nghanol Eryri. Saif ger aber Afon Glaslyn ac Afon Colwyn. Fymryn islaw'r aber rhed yr afon dan hen bont gerrig â dau fwa yng nghanol y pentref. Mae nifer o'r tai a'r gwestai wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. I'r gorllewin mae Moel Hebog a'i chymdogion ac i'r gogledd ceir cyfres o fryniau sy'n codi i ben Yr Wyddfa. Mae lôn yr A4085 rhwng Caernarfon (13 milltir i'r gogledd) a Porthmadog (8 milltir i'r de) yn rhedeg trwy'r pentref. Mae lôn arall yn arwain i galon mynyddoedd Eryri trwy Nant Gwynant i Ben-y-gwryd, ac ymlaen i Gapel Curig neu Llanberis.
Cynnwys |
[golygu] Y fynachlog a'r eglwys
- Prif erthygl: Priordy Beddgelert
Ger canol y pentref saif Eglwys y Santes Fair ar safle priordy cynharach. Dyma'r Beddgelert gwreiddiol. Hen fynachlog Gymreig oedd hi a sefydlwyd yn ôl traddodiad gan y sant Celert. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol newidiodd yn fynachlog Awstinaidd, yn bennaf er mwyn ceisio gwrthsefyll hawliau abaty Sistersiaidd Aberconwy i dir yn yr ardal.
Mae'r eglwys bresennol yn ddiweddarach, ond mae'n cynnwys rhannau o gapel yr hen briordy, yn arbennig dau fwa cerrig a ffenestr lanset hardd sy'n perthyn i'r 13eg ganrif. Atgyweiriwyd yr eglwys yn sylweddol yn 1882.
[golygu] Chwedl Gelert
Mae dwy fersiwn o'r stori. Mae'r fersiwn hynaf o'r stori'n dyddio nôl i ddiwedd y 15ed ganrif, yn sôn am Cilhart, ci Llywelyn ap Gruffudd, a fu farw o flinder ar ôl erlid carw, a'i gladdu ym Meddgelert.[2] Roedd y stori hon, fwy na thebyg, yn hysbys yn y canoloesoedd, fel y gwelir ar y llun ar y dde, sef symbol o Gymru - crud aur a milgi arian - un o chwe symbol o lun a wnaed yn oes Richard lll, brenin Lloegr.
Yr ail fersiwn yw'r stori boblogaidd: i'r pentref gael ei henwi ar ôl un o hoff fytheiad Llywelyn ap Gruffudd (neu efallai Llywelyn Fawr), Gelert, a gladdwyd yno. Ychwanegwyd at yr hen stori hon, yn ôl pob tebyg, gan dafarnwr lleol, yn y 18ed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, er mwyn denu ymwelwyr i'r pentref. Cododd David Prichard, tafarnwr y Goat a dyfeisiwr y chwedl, ddwy garreg ar lan Afon Glaslyn i nodi safle bedd Gelert.[3]
Posibilrwydd arall yw mai ar ôl y sant cynnar o'r enw Celert yr enwyd y pentref. Gelwir bwthyn ger y bont yn 'Fwthyn Llywelyn' hefyd, ond mae'n dyddio o'r 17eg ganrif.
[golygu] Atyniadau a hynafiaethau yn yr ardal
- Dinas Emrys - bryngaer a chastell a gysylltir â chwedl Myrddin a'r brenin Gwrtheyrn
- Mwynglawdd Sygn - hen gloddfa copr
- Pont Aberglaslyn - mae llwybr deniadol yn dilyn cwrs hen reilffordd o Feddgelert i'r bont, gan ddilyn glan Afon Glaslyn
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cyfeiriadau
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Gellilydan · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhyndeudraeth · Pentir · Pentrefelin · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Pwllheli · Rachub · Rhiw · Rhosgadfan · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd-Ddu · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Talybont, Abermaw · Talybont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr

