Penmorfa
Pentref bychan yn Eifionydd, Gwynedd, yw Penmorfa. Mae'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Dremadog ar bwys yr A487.
Fe'i gelwir yn Benmorfa am ei fod yn gorwedd ar ben gorllewinol morfa Tremadog, sy'n rhan o'r Traeth Mawr; buasai'r tir hwn yn wlypach o lawer cyn i William Madocks godi morglawdd dros geg y Traeth Mawr.
Eglwys Beuno Sant yw eglwys Penmorfa. Mae wedi cau ers rhai blynyddoedd.
Ar ochr arall yr Alltwen i'r gogledd o'r pentref ceir hen blasdy'r Gesail Gyfarch gyda phlasdy'r Clenennau yn ei wynebu dros y cwm.
Ar wahân i'r A487, mae lonydd bychain dros y morfa yn cysylltu'r pentref â Pentrefelin a Cricieth i'r de-orllewin a Penamser a Phorthmadog i'r de-ddwyrain.
Enwogion [golygu]
- Cadwaladr Cesail (bl. 1610-1625), bardd a gysylltir â'r Gesail Gyfarch, Pemorfa.
- Edward Samuel, bardd a chyfieithydd a aned ym Mhenmorfa yn 1674.
- William Williams (Will Penmorfa) (1759-1828), telynor enwog.
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr