Ffestiniog
Cyfesurynnau: 52°57′18″N 3°55′44″W / 52.955°N 3.929°W
| Ffestiniog | |
|
|
|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH705415 |
|---|---|
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | BLAENAU FFESTINIOG |
| Rhanbarth cod post | LL41 |
| Cod deialu | 01766 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Meirionnydd Nant Conwy |
| Cynulliad Cymru | Meirionnydd Nant Conwy |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
Pentref, cymuned a phlwyf yng Ngwynedd yw Ffestiniog neu Llan Ffestiniog, a saif rhwng Blaenau Ffestiniog a Maentwrog, yng Nghwm Ffestiniog. O'r pentref ceir golygfeydd braf o'r Moelwynion, Cnicht a bryniau Blaenau. Yn y plwyf ceir Rhaeadr y Cwm a Phwlpud Huw Llwyd ar lan Afon Cynfal.
Enw ysgol y pentref yw Ysgol Bro Cynfal. Mae un tafarn yn y pentref o'r enw'r Pengwern ac un siop, Swyddfa'r Post ac hefyd Neuadd Bentref. Llan Ffestiniog yw cartref Clwb Golff Ffestiniog.
Cynnwys |
Trafnidiaeth a Chludiant [golygu]
Mae cefnffordd de-gogledd yr A470 yn rhedeg drwy'r pentref. Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn cysylltu'r pentref gyda Blaenau Ffestiniog a'i orsaf drenau a Phorthmadog a gwasanaethau arall i Ddolgellau. Arferai'r pentref gael ei wasanaethu gan reilffordd o Flaenau Ffestiniog i'r Bala tan yr 1960au.
Traddodiad [golygu]
Dyma'r fro a gysylltir â Blodeuwedd, Lleu Llaw Gyffes a Gronw Pebr yn y Pedair Cainc y Mabinogi. Gelwir hen garreg ar lan Afon Cynfal, i'r de o'r pentref, yn Llech Gronw. Mae 'na dwll ynddi a chredid mai hon oedd y garreg a roddasai Gronw arno i'w amddiffyn rhag tafliad gwaywffon Lleu. Dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref mae Llyn y Morynion, a gysylltir â morwynion Blodeuwedd a gerllaw iddo mae Beddau Gwŷr Ardudwy.
Enwogion [golygu]
- Huw Llwyd - Bardd a milwr, ganwyd yng Nghynfal-fawr, filltir i'r de o Ffestiniog, ond ym mhlwyf Maentwrog
- Morgan Llwyd - llenor Piwritanaidd, ganwyd yng Nghynfal-fawr.
- Geraint Vaughan Jones, nofelydd.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bresennol, ond dim tag <references/>