Cnicht

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 53°00′N 4°01′W / 53°N 4.02°W / 53; -4.02
Cnicht
(Y Moelwynion)
Cnicht from west.jpg
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun
Uchder (m) 689
Uchder (tr) 2260
Amlygrwydd (m) 104
Lleoliad yn Eryri
Map topograffig Landranger 115;
Explorer 17W
Cyfesurynnau OS SH645466
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Hewitt, Nuttall a HuMP
Cnicht is located in Cymru
Cnicht (Cymru)

Mae Cnicht yn fynydd yn y Moelwynion yn Eryri. Caiff yr enw "Matterhorn Cymru" ambell dro, gan ei fod yn edrych yn bur debyg i'r mynydd hwnnw wrth edrych arno o'r de-orllewin, er enghraifft o ardal Porthmadog neu o bentref Croesor wrth ei droed. Gellir ei ddringo yn weddol hawdd o Groesor. O'r cyfeiriad arall fodd bynnag, er enghraifft wrth ddilyn y llwybr hir sy'n cychwyn gerllaw Nantmor, prin y mae'n edrych fel mynydd o gwbl, dim ond lle mae'r grib uchel yn gorffen.

Yr un ydy tarddiad y gair, mae'n debyg, a'r gair "cnwch" neu cnuch, sef 'chwydd, crwmp' (sef codiad tir yn yr achos yma): mae'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng ngogledd Ceredigion ond prin yw'r enghreifftiau y tu allan i'r ardal honno ar wahân i'r gair Cnicht.[1]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 689 metr (2260 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]