Clwb Golff Ffestiniog

Oddi ar Wicipedia
Clwb Golff Ffestiniog
Mathclwb golff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.963699°N 3.914253°W Edit this on Wikidata
Map

Clwb golff mynyddig yn gwasanaethu ardal 'Stiniog, Gwynedd yw Clwb Golff Ffestiniog. Mae'r clwb wedi'i leoli tua hanner milltir i'r gorllewin o bentref Llan Ffestiniog wrth ymyl ffordd y B4391 o Lan Ffestiniog i'r Bala.

Ffurfiwyd y clwb presennol yn 1967 yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Ffestiniog. Aeth y clwb gwreiddiol, a ffurfiwyd yn 1893, i'r wal yn 1935 yn ystod y dirwasgiad mawr. Saif y clwb tua 900 metr uwchlaw lefel y môr, sy'n ei wneud yn un o gyrsiau golff uchaf Cymru.[1]

Cwrs golff 9 twll (par 68) yw hwn a'i hyd yw 4,602 metr. Mae'r cwrs yn cynnwys rhwystr dŵr o'r enw Llyn Cefn ar dwll rhif 6. Er mwyn diogelu'r grîns rhag y defaid sy'n pori ar hyd y cwrs, mae ffensys trydan wedi eu gosod o gwmpas pob un ohonynt.

Swyddogion[golygu | golygu cod]

  • Llywydd – Mr Sid Wallpalmer
  • Llywydd y Merched – Mrs Lydia Owen
  • Cadeirydd – Mr Glyn Hughes
  • Is Gadeirydd – Mr John R Hughes
  • Trysorydd - Mrs Megan Jones
  • Capten – John Elwyn Jones
  • Capten y Merched – Mrs Dawn Owen
  • Ysgrifennydd y Clwb – Andrew M Roberts
  • Ysgrifennydd Cystadleuaeth - Mr G J Jones
  • Ysgrifennydd Handicap – Mr Dave Reed

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Clwb Golff Ffestiniog". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-20. Cyrchwyd 2008-10-29.