Llithfaen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Llithfaen yn bentref ar arfordir gogleddol penrhyn Llŷn yng Ngwynedd (cyfeiriad grid SH356431). Saif ger llechweddau deheuol Yr Eifl ar y ffordd B4417 o Lanaelhaearn i Nefyn.

Golygfa o Lithfaen o'r Dwyrain

Tyfodd y boblogaeth pan agorwyd nifer o chwareli gwenithfaen ar yr Eifl yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd llawer o dai newydd ac mae cyfrifiad 1881 yn dangos nifer fawr o fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Llŷn ei hun, o Benmaenmawr a chyn belled â'r Alban. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, cyn agor chwareli llithfaen lleol fel yr un yn Nant Gwrtheyrn, arferai nifer o dyddynwyr y plwyf ychwanegu at eu hincwm trwy dorri grug ar lethrau Tre'r Ceiri a'i gludo ar eu cefnau yn feichiau mawr i'w werthu fel tanwydd ym marchnad Pwllheli am 6 cheiniog y baich.[1]

Mae yno siop sydd yn gael ei redeg gan y gymuned a Thafarn Y Fic, sydd hefyd yn cael ei rhedeg gan gwmni cydweithredol.

O bentref Llithfaen mae modd cyrraedd Nant Gwrtheyrn ar hyd lôn sy'n arwain tua'r gogledd i gyfeiriad y môr. Yma y sefydlwyd y Ganolfan Iaith Genedlaethol. Ar un o dri chopa'r Eifl mae bryngaer enwog Tre'r Ceiri.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. D. T. Davies (gol.), Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn (Pwllheli, 1910).

Dolen allanol[golygu]