Dolgellau
Cyfesurynnau: 52°44′N 3°53′W / 52.74°N 3.88°W
| Dolgellau | |
|
|
|
| Poblogaeth | 2,678 (Cyfrifiad 2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH728178 |
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | DOLGELLAU |
| Rhanbarth cod post | LL40 |
| Cod deialu | 01341 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Dwyfor Meirionnydd |
| Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
Tref farchnad yn ne Gwynedd yw Dolgellau, ger mynydd Cadair Idris (neu Gader Idris, fel y'i elwir yn lleol). Cyfeirnod OS: SH 72901 18024. Mae afon Wnion, un o lednentydd yr afon Mawddach, yn llifo trwy’r dref gan basio dan Y Bont Fawr.
Mae Caerdydd 148.3 km i ffwrdd o Ddolgellau ac mae Llundain yn 292.5 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 56 km i ffwrdd.
Cynnwys |
Hanes ac economi [golygu]
Cyn y cyfnod Rhufeinig yr oedd yr ardal y mae Dolgellau yn sefyll ynddi yn rhan o diroedd yr Ordoficiaid, sef un o lwythau Celtaidd Cymru a orchfygwyd gan y Rhufeinwyr yn OC 77/78. Er y darganfuwyd ychydig o darnau arian o gyfnodau yr ymherodwyr Hadrian a Trajan ger Dolgellau, mae’r ardal yn gorsog ac nid oes tystiolaeth iddi gael ei chyfanheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Serch hynny, saif tair o fryngaerau ger Dolgellau, er na wyddys yn sicr pwy a'u adeiladodd.
Wedi i’r Rhufeiniaid adael, daeth yr ardal dan rheolaeth cyfres o benaethiaid Cymreig, ond mae’n debyg na fodolodd trigfa sefydledig yno tan ddiwedd y 11eg neu ddechrau’r 12fed ganrif, pan y’i sefydlwyd yn faerdref, o bosibl gan Gadwgan ap Bleddyn. Tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol oedd maerdref, ac ni newidiwyd y statws hwn ar y Ddolgellau tan deyrnasiad Harri VII (1485-1509).
Adeiladwyd eglwys rywbryd yn y 12fed ganrif (fe’i chwalwyd a disodli gan yr adeilad presennol ym 1716), er mai Abaty Cymer, a sefydlwyd ym 1198 yn Llanelltyd, oedd y ganolfan grefyddol bwysicaf yn wreiddiol. Dechreuodd pwysigrwydd Dolgellau dyfu yn y cyfnod hwn ac fe’i chrybwyllwyd ym Mesuriad Tir Meirionnydd, a archebwyd gan Edward I (ni chrybwyllwyd Llanelltyd). Ym 1404 cynhaliwyd cyngor penaethiaid yno gan Owain Glyndŵr.
Wrth i George Fox ymweld a’r dref ym 1657, daeth llawer o drigolion Dolgellau i fod yn Grynwyr. Oherwydd erledigaeth ymfudodd llawer ohonynt i Bennsylfania ym 1686, dan arweiniant Rowland Ellis, ffermwr bonheddig lleol. Enwyd tref Bennsylfaenig Bryn Mawr ar ôl fferm Ellis, ger Dolgellau.
Datblygodd y diwydiant gwlân yn Nolgellau i fod o’r pwysigrwydd eithaf i’r economi lleol; erbyn diwedd y 18fed ganrif cyfrifwyd bod gwerth blynyddol £50,000 i £100,000 ar allgynnyrch gwlân Dolgellau. Serch hynny, dechreuodd y diwydiant ddirywio yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oherwydd dyfodiad y gwŷdd mecanyddol. Cyfrannydd arall i economi Dolgellau, er yr un cyfnod, oedd barcio; parhaodd hyn tan y 1980au, er ar radd llawer iawn llai.
Pan ddarganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 19eg ganrif, brysiodd llwyth o ymchwilwyr yno. Ar un pryd cyflogwyd mwy na 500 o weithwyr yn y pyllau aur lleol. Pery hyn ar radd llawer iawn llai hyd heddiw ym mhyllau aur Gwynfynydd, un o ffynonellau prin aur Cymru.
Heddiw mae economi Dolgellau yn dibynnu'n bennaf ar dwristiaeth (gweler isod, er bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan o hyd; cynhelir marchnad ffermwyr yng nghanol y dref bob mis.
Yr enw "Dolgellau" [golygu]
Ni wyddys dim yn sicr am darddiad enw 'Dolgellau'. Mae’n debyg y tardd o'r geiriau “dol” a “gelli”, er yr awgrymwyd deilliannau megis “dol cellïau” neu “dol cellau [mynachod]” hefyd; oherwydd hanes yr enw, fodd bynnag, nid yw rhain mor debygol.
Ceir yr enghreifftiau cynharaf o enw'r dref mewn cofnodion gwladol Seisnig ac felly maent yn llurguniadau o'r Gymraeg. "Dolkelew" yw’r sillafiad cynharaf a wyddys amdano (1253, Mesuriad Tir Meirionnydd[angen ffynhonnell]), ond gwelir y sillafiad "Dolgethley" ym 1285 (mae’r thl yn sicr yn gais i gynrychioli’r sain Gymraeg ll). Mewn dogfen a luniwyd ar gyfer Owain Glyndŵr, ceir y ffurf "Dolguelli". Wedi hynny tan y 19eg ganrif, gwelir sillafiadau megis "Dolgelley", "Dolgelly" neu "Dolgelli". Defnyddiodd Thomas Pennant y ffurf "Dolgelleu" yn ei lyfr Tours of Wales, a dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1723, ond nid oedd y ffurf hon fyth yn gyfredol iawn. Yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1825 defnyddir y ffurf "Dolgellau", a mabwysiadodd Robert Vaughan o'r Hengwrt y ffurf hon ym 1836; mae’n bosibl fod y ffurf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth mai "Dol Cellau" yw tarddiad yr enw. Hwn yw'r sillafiad safonol heddiw yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, ond fe'i dderbyniwyd yn gynharaf yn y naill iaith na'r llall: "Dolgellau" a ysgrifennodd Islwyn Ffowc Elis ym 1949 yng Ngysgod y Cryman, ond parhaodd y sillafiad "Dolgelley" ar arwyddion ffordd tan yn ddiweddar iawn.
Cysylltiadau llenyddol [golygu]
Yn Nolgellau roedd yr awdur Cymraeg Marion Eames yn byw, a ysgrifennodd y nofel Y Stafell Ddirgel sy'n seiliedig ar hanes y Crynwyr a ymfudodd o Ddolgellau i'r Amerig ym 1686.
Cadwodd Robert Vaughan (1592-1667) lyfrgell helaeth yn yr Hengwrt, ger Dolgellau, yn cynnwys trysorau fel Llyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Adnabyddir ei gasgliad wrth yr enw Llawysgrifau Hengwrt.
Atyniadau lleol [golygu]
Atynna ardal Dolgellau filoedd o dwristiaid bob flwyddyn oherwydd harddwch naturiol yr ardal. Daw rhan helaeth ohonynt er mwyn cerdded, heicio, marchogi, rafftio a dringo, yn enwedig ar lethrau Cader Idris.
Agorwyd gorsaf trên Dolgellau – yn rhan o’r Great Western Railway - ym 1868. Caewyd y rheilffordd yn y 1960au gan Dr Beeching. Heddiw rhed "Llwybr Mawddach", sef llwybr i gerddwyr a beicwyr, ar hyd yr hen reilffordd.
Mae atyniadau hanesyddol yn cynnwys gweddillion Abaty Cymer, tua hanner milltir o'r dref. Mae hefyd arddangosfa am y Crynwyr yn y Canolfan Croeso, yn ogystal â mynwent Crynwyr yn y dref. Yn Ninas Mawddwy, sef pentref ger Dolgellau, mae cae o’r enw Camlan a gysylltir gan rai â'r Brenin Arthur (gweler Camlan).
Digwyddiadau diwylliannol [golygu]
Er 1992 cynhelir gŵyl cerddoriaeth byd "Sesiwn Fawr" yn Nolgellau. Fe’i chynhaliwyd yn wreiddiol ar strydoedd y dref, ond tyfodd yn rhy fawr i ganol Dolgellau. Er 2002 cymer le ar gyrion Dolgellau a chodir tâl am fynediad. Defnyddiwyd yr arian yn ddiweddar i atynnu perfformwyr megis Cerys Matthews, Iwcs a Doyle, Super Furry Animals a Goldie Lookin' Chain. Daw torfeydd o dros 5,000 o bobl i Sesiwn Fawr yn flynyddol ac honnir bod yr ŵyl yn un o brif wyliau cerddoriaeth byd Ewrop. Er 1995 darlledir yr ŵyl ar BBC Radio Cymru ac er 1997 ar S4C.
Bob haf cynhelir hefyd Ŵyl Cefn Gwlad yn Nolgellau, sef cymysg o Sioe Amaethyddol a ffair. Mae mynediad am ddim ond rhoddir yr arian a godir yn y gwahanol stondiau i achosau elusengar.
Ym 1949 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ac yn fwy ddiweddar ym 1994 Eisteddfod yr Urdd.
Pobl o Ddolgellau [golygu]
- David Elis (1736 – 1795), ysgolhaig
- Eliezer Pugh (1814-1903), dyngarwr
- Bethan Gwanas (g. 1962), awdures
- Iwan "Iwcs" Roberts (g. 1967), actor, canwr a thelynegwr
Gefeilldref [golygu]
Gefeilliwyd Dolgellau â Gwenrann yn Llydaw (Gwenrann yw'r enw Llydaweg: Guérande yw'r enw Ffrangeg).
Dolennau allanol [golygu]
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr