John Ceiriog Hughes
| Ceiriog | |
|---|---|
John Ceiriog Hughes (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) |
|
| Ganwyd | John Ceiriog Hughes 25 Medi, 1832 Llanarmon Dyffryn Ceiriog |
| Bu farw | 23 Ebrill, 1887 |
| Cenedligrwydd | Cymro |
| Yn enwog am | Barddoniaeth fwyaf poblogaidd y 19eg ganrif |
| Galwedigaeth | Bardd |
| Gweithgar | 1850au - 1880au |
- Mae 'Ceiriog' yn ailgyfeirio yma. Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).
Bardd o Gymro oedd John Ceiriog Hughes (25 Medi, 1832 - 23 Ebrill, 1887), a aned ar fferm Penybryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Dan ei enw barddol adnabyddus Ceiriog yr oedd efallai y mwyaf poblogaidd a dylanwadol o feirdd Cymru yn ail hanner y 19eg ganrif. Roedd yn gyfaill i R. J. Derfel, Creuddynfab ac Idris Fychan.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Roedd mam Ceiriog, Phoebe, yn gweithio fel bydwraig ac yn meiddiannu dealltwriaeth neilltuol o dda o rinweddau llysiau ar gyfer gwella pobl. Yn un o wyth o blant, roedd Ceiriog yn ffefryn yn llygaid ei fam a cafodd ei sbwylio ganddi. Dechreuodd Ceiriog farddoni tra'n ddisgybl yn Ysgol Nant y Glôg ar ôl derbyn llyfr ar ramadeg Cymraeg gan ei dad, Richard, a oedd yn cynnwys adran ar sut i gynghaneddu. Pan yn 18 oed, ym 1849, gadawodd Ceiriog Llanarmon, a mynd i fyw i Fanceinion. Bu'n gweithio mewn siop Groser yn Oxford Street, Manceinion am gyfnod, cyn iddo agor siop groser ei hun ar Charles Street, Manceinion ym 1854. Wedi ymweliad gan Creuddynfab, ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol, penderfynnodd Ceiriog werthu'r siop a chanolbwyntio ar farddoni. Arweiniodd y newid hwn i Ceiriog ddechrau yfed alcohol yn drwm. Dychwelodd Ceiriog i Gymru ym 1865 ar ôl derbyn swydd fel gorsaf-feistr yng ngorsaf drennau Llanidloes. Wedi dychwelyd i Gymru, parhaodd y bardd i yfed yn drwm a bu farw yn ddyn tlawd, 55 mlwydd oed, ym 1887.
Gwaith llenyddol [golygu]
Un o nodweddion barddoniaeth Ceiriog yw'r ffaith fod ei waith yn ymgeisio i ddyrchafu'r Cymry ac i greu diwylliant Cymreig newydd yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad sarhaus y 'Llyfrau Gleision' ar addysg yng Nghymru. Fe ysgrifennai Ceiriog gerddi syml a oedd yn gweddu'n dda i gerddoriaeth.
Bardd telynegol oedd Ceiriog. Canai ar yr hen alawon Cymreig. Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858 am rieingerdd, Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Bran. Mae rhai o'i gerddi yn aros yn boblogaidd heddiw, er enghraifft Dafydd y Garreg Wen, Nant y Mynydd, a'r dilyniant o gerddi Alun Mabon gyda'u llinellau enwog am barhad cenedl y Cymry dros y canrifoedd:
- Aros mae'r mynyddau mawr,
- Rhuo trostynt mae y gwynt.
Er bod ei ganeuon yn bruddglwyfus a sentimental yn ôl safonau diweddar, medrai ysgrifennu rhyddiaith ddychanol hefyd, gan ddychanu sefydliadau fel yr Eisteddfod a thuedd amlwg yr oes at barchusrwydd a lledneisrwydd, yn arbennig yn y cyfrolau Gohebiaethau Syr Meurig Crynswth.
Cymynrodd [golygu]
Fe ddywedodd O.M. Edwards fod Ceiriog wedi 'gwneud mwy dros farddoniaeth Cymru na holl gywyddwyr a chynganeddwyr y canrifoedd'. Mae ei farddoniaeth yn parhau i fod ymysg y cerddi mwyaf poblogaidd yng Nghymru hyd heddiw.
Llyfryddiaeth [golygu]
Llyfrau Ceiriog [golygu]
- Gohebiaethau Syr Meurig Crynswth (1856-1858; gol. Hugh Bevan, 1948)
- Oriau'r Hwyr (1860)
- Oriau'r Bore (1862)
- Cant o Ganeuon (1863)
- Y Bardd a'r Cerddor (1865)
- Oriau eraill (1868)
- Oriau'r Haf (1870)
- Oriau Olaf (1888)
Beirniadaeth ac astudiaethau [golygu]
- Saunders Lewis, Yr Artist yn Philistia I: Ceiriog (1929)
- W. J. Gruffydd, Ceiriog (1939)