David Richards (Dafydd Ionawr)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darlun o Dafydd Ionawr

Bardd Cymreig oedd David Richards, enw barddol Dafydd Ionawr (22 Ionawr 175112 Mai 1827), a aned ger Tywyn, yn yr hen Sir Feirionydd (de Gwynedd), Cymru.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Edward Richard yn Ystradmeurig, Ceredigion. Astudiodd yn Rhydychen am beth amser, ar annogaeth Ieuan Brydydd Hir. Bu'n cadw ysgol mewn sawl man cyn ymsefydlu yn Nolgellau.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn fardd o duedd cwbl wahanol i feirdd serch y 18fed ganrif fel Rhys Jones o'r Blaenau. Yn ogystal nid oedd yn eisteddfodwr. Roedd yn ddyn o anian dawel, dwys a difrifol, a gwrthwynebai'n gryf rhai o syniadau radicalaidd Cymry Llundain, yn arbennig y Gwyneddigion. Roedd yn gynghaneddwr da. Canai bron yn gyfangwbl ar bynciau ysgrythurol. Ei brif waith yw "Cywydd y Drindod" (1793), cerdd hir iawn ar natur y Drindod; ond er fod rhannau o'r gerdd yn cynnwys delweddau diddorol mae ei ffaeleddau'n amlwg. Serch hynny roedd yn gerdd arloesol yn y Gymraeg.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd y gweithiau a ganlyn yn ystod ei oes:

  • Y Mil-Blynyddau (1799)
  • Gwaith Prydyddawl (1803)
  • Joseph, Llywodraethwr yr Aipht (1809)
  • Barddoniaeth Gristianogawl (1815)
  • Cywydd y Dilyw (1821)

Golygodd Nicander gasgliad o waith y bardd yn 1851.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: