Bethesda
Cyfesurynnau: 53°10′46″N 4°03′37″W / 53.1794°N 4.0603°W
| Bethesda | |
|
|
|
| Poblogaeth | 4,327 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH624667 |
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | BANGOR |
| Rhanbarth cod post | LL57 |
| Cod deialu | 01248 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Arfon |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
- Erthygl am y pentref yng Ngwynedd yw hon. Gweler hefyd Bethesda (gwahaniaethu).
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, yn Nyffryn Ogwen, a enwyd ar ôl Capel Bethesda. Y mae ei thrigolion yn aml yn cyfeirio ati fel Pesda. Cyfeirnod OS: SH 62262 66779. Mae Caerdydd 193.8 km i ffwrdd o Bethesda ac mae Llundain yn 334.4 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 18.6 km i ffwrdd.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Bu pobl yn byw yn Nyffryn Ogwen am ganrifoedd cyn i Fethesda ei hun ddyfod, gyda phlwyf Llanllechid yn un o'r mannau mwyaf poblog. Ni dyfodd yr ardal nes agor Chwarel y Penrhyn yn yr 18fed ganrif, gyda theulu Warburton yn berchen arni. Hyd heddiw, hi yw'r chwarel mwyaf yn y byd a wnaed heb beiriannau, ac yn ei hanterth cyflogai tua 5,000 o weithwyr, ac allforiai llechi o amgylch y byd; roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn cysyltu'r chwarel a dociau Porth Penrhyn, ger Bangor.
Er y bu sawl streic yn y chwarel yn yr 1880au a'r 1890au, mae'r dref yn enwog am Y Streic Fawr a fu rhwng 1900-3 wrth i weithwyr cael eu cau allan o'r chwarel wedi ffrae am gyflogau. Ym 1901 gadawyd unrhyw un a hoffai weithio ddychwelyd, gan greu rhwyg chwerw yn y pentref rhwng y streicwyr a'r 'cynffonwyr'. Er y daeth y streic i ben ym 1903 ni adfywiodd y pentref, wrth i'r diwydiant llechi ddirywio ac wrth i tua hanner ei phoblogaeth alltudo.
Pobl [golygu]
Yn ôl cyfrifiad 2001 yr oedd 4,327 o bobl yn byw yn yng nghymuned Bethesda (sy'n cynnwys pentref Rachub ac ardal Gerlan), gyda 77.0% ohonynt yn medru'r Gymraeg. Ym 1991 roedd y ffigwr hwn yn uwch, gyda oddeutu 80% o'r boblogaeth yn ei medru. Mae'r boblogaeth a'r canran sy'n medru'r Gymraeg wedi dirywio dros y ganrif ddiwethaf - ym 1901, yn ystod adeg y Streic Fawr, roedd tua deng mil o bobl yn byw yn yr ardal, gyda 99% ohonynt yn siarad Cymraeg, sef y ffigwr uchaf yng Nghymru ar y pryd.
Ffugenw pobl Bethesda yw'r How Gets. Mae hyn yn deillio o'r ystydeb bod pobl Bethesda â Saesneg wael, a byddent wastad yn gofyn i deithwyr di-Gymraeg "How get you here?". Yn ddiweddarach mae gan ei phobl enw am fod â acen "ymosodol" a chaletach na gweddill y cyffiniau.
Heddiw, mae gan bobl Bethesda ymwybyddiaeth gryf am hanes eu pentref, yn enwedig o'r Streic Fawr. Bydd yr enw 'Penrhyn' (yn cyfeirio at deulu Penrhyn) dal yn corddi'r trigolion, a hyd yn oed canrif wedi'r Streic gwrthoda llawer ymweld â hen gartref y teulu hwnnw yng Nghastell Penrhyn.
Gwaith [golygu]
Hyd heddiw Chwarel Y Penrhyn yw un o brif cyflogwyr y pentref, gyda tua 300 o weithwyr. Y mae ffatri Austin Taylor's hefyd yn gyflowr pwysig. Serch hyn, nid oes fawr o gyfleon i bobl ifanc yn y pentref, a bydd nifer yn gadael am lefydd fel Caerdydd a Manceinion. Y mae llawer o'r boblogaeth yn gorfod comiwtio i weithio, gyda Bangor yn fan poblogaidd iddynt.
O ddydd i ddydd [golygu]
Cymraeg yw prif iaith y pentref, a fe'i gwelir a'i chlywir ymhobman. Mae Bethesda yn enwog am ddau beth yn benodol, sef y nifer o dafarndai yno a'r nifer o gapeli. Y mae gan gymuned Bethesda wyth o dafarndai (chwech ohonynt yn y Stryd Fawr), a mae tri lle arall lle y gellid yfed. Yn wahanol i'r arfer, noson prysuraf Bethesda yw'r nos Sul. Mae nifer rhyfeddol o lefydd yn gwerthu prydau parod, a mae'r Mabinogion yn siop sglodion gyda enw da dros ardal eang. Mae hefyd tair caffi yn y stryd fawr.
Mae tair ysgol gynradd yn y gymuned, ac un ysgol uwchradd sef Ysgol Dyffryn Ogwen, sydd â thua 400 o ddisgyblion a 30 o athrawon.
Llais Ogwan yw'r papur bro lleol, ac mae'n gwerthu tua 2000 o gopiau pob mis.
Enwogion [golygu]
- David Ffrangcon Davies (1855-1918), cantor opera.
- Caradog Prichard - nofelydd a bardd, a enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dair gwaith yn olynol.
- R. Williams Parry - bardd enwog ac addfwyn. Un o'i gerddi enwocaf yw Eifionydd. Mae'r bardd wedi'i gladdu ym mynwent Coetmor.
- Gruff Rhys - prif leisydd gyda Ffa Coffi Pawb, cyn symud ymlaen at y Super Furry Animals. Mae hefyd wedi rhyddau albwm ei hun.
- John Ogwen - Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru.
- Dafydd Orwig - Cynghorydd Plaid Cymru fu'n frwd dros addysg Gymraeg.
- John Doyle - Gitarydd a cherddor a ddaeth i amlygrwydd fel un o'r deuawd Iwcs a Doyle.
- Mikael Madeg - awdur Llydewig a fu'n byw ym Methesda am ddwy flynedd pan yn athro cynorthwyol Ffrangeg yn Ysgol Dyffryn Ogwan rhwng 1971 ac 1974.[1]
Trefi eraill o'r un enw [golygu]
Heblaw am y Bethesda wreiddiol yn y Beibl, mae yna un ar hugain o drefi o'r enw "Bethesda" yn Unol Daleithiau America a Chanada; y mwyaf enwog ohonynt yw Bethesda, Maryland (gweler Bethesda (gwahaniaethu)).
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Mikael
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr