Dyffryn Ogwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa i'r gorllewin i lawr Dyffryn Ogwen, o'r Crimpiau. Mae Tryfan a'r Glyderau i'r chwith, a'r Carneddau i'r dde.

Dyffryn a leolir yn bennaf yng Ngwynedd ydy Dyffryn Ogwen. Saif rhan uchaf y dyffryn, i'r dwyrain o Lyn Ogwen, yn Sir Conwy.

Daearyddiaeth[golygu]

Saif y dyffryn i'r de-ddwyrain o Fangor. Mae'n ffinio ar un ochr â mynyddoedd y Glyderau, ac â'r Carneddau ar y llall. Mae Afon Ogwen yn llifo drwyddo, ac yn gwahanu'r ddwy res o fynyddoedd. Mae rhan o'r dyffryn ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Hamdden[golygu]

Mae Dyffryn Ogwen, fel canlyniad o'i ffinio ag ardaloedd mynyddig ar bob ochr iddo, yn gartref i lawer o gerddwyr mynydd, dringwyr, a gwersyllwyr. Gall y lefel uchel hon o weithgareddau olygu mwy o anawsterau ar y mynyddoedd, ac i ddelio â'r broblem hon, sefydlwyd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen. Cychwynwyd y gwaith yn wreiddiol gan Ron James yng nghanolfan hamdden awyr agored Bwthyn Ogwen, ond tyfodd yr angen am sefydliad achub mynyddoedd amser llawn yn yr ardal.

Pobl[golygu]

Mae rhannau gogleddol y dyffryn yn cynnwys y pentref chwarelyddol, Bethesda, a phentrefi llai eraill megis Tregarth, Mynydd Llandygai a Rachub. Mae tua 6,500 o drigolion yn y dyffryn i gyd, gydag oddeutu tri chwarter ohonynt yn medru'r Gymraeg.

Dolenni allanol[golygu]