Dinas Mawddwy

Oddi ar Wicipedia
Dinas Mawddwy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMawddwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.71944°N 3.69083°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH857148 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng cymuned Mawddwy yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Dinas Mawddwy[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif fymryn oddi ar y ffordd A470, lle mae'r ffordd fechan i bentref Llanuwchllyn yn gadael yr A470 i ddringo dros Fwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru sydd a ffordd fodur drosto. O'r pentref mae'r ffordd yma yn arwain i'r gogledd trwy Gwm Cywarch i gyfeiriad Aran Fawddwy. Mae'r pentref gerllaw Afon Dyfi. Daw'r enw oddi wrth hen gwmwd Mawddwy, oedd ar un adeg yn deyrnas annibynnol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf reilffordd, ar Reilffordd Mawddwy oedd yn gwasanaethu chwareli llechi ym Minllyn ac Aberangell. Yn yr ardal yma yr oedd Gwylliaid Cochion Mawddwy yn byw, ac yn Nugoed Mawddwy heb fod ymhell o'r pentref y llofruddiwyd y Barwn Lewys ab Owain, Siryf Sir Feirionnydd, ganddynt yn 1555. Dywedir fod Gwesty'r Llew Coch yn y pentref yn dyddio i'r 12g.

Ychydig i'r gorllewin mae mynydd Maesglase, a rhwng Dinas Mawddwy a'r mynydd mae Cwm Maesglasau, lle roedd yr emynydd a bardd Hugh Jones, Maesglasau (1749-1825) yn byw.

Trigolion[golygu | golygu cod]

Un o gymoedd sydd yn ymestyn draw o Ddinas Mawddwy ar hyd Afon Cywarch yw Cwm Cywarch. Cafodd Rhys Gwynn ei swyno gan un o hen drigolion y cwn hwnnw, sef Beti Williams, Plas y Bont, Cwm Cywarch.

”Mae Beti yn agor ei beibl ar fwrdd y gegin. Ymhlyg yng nghefn y beibl roedd y gerdd* roedd Beti wedi cofnodi sy'n nodi nifer o'r enwau ar Graig Cywarch* a gwyd tu ôl i'r fferm yn gefnlen urddasol i'r cwm. Dwn i ddim be ddywedai'r heddlu barddol am ddefnyddio 'void' i odli gydag erioed! A pha blanhigion tybed yw dail syfri a selon? Ta waeth, roedd Beti'n gwybod lle roedd y dail beibl yn tyfu wrth odre'r graig ac yn eu defnyddio fel nod llyfr, yn y llyfr priodol wrth gwrs. Dyma un o fy hoff luniau, yn bennaf am ei fod yn mynegi yn llawer gwell nag mewn geiriau y cyfan mae'r gair "cynefin" yn ei olygu i fi - nid dim ond bodoli mewn ardal benodol, ond ei adnabod yn drylwyr o ran gallu enwi pob cornel ohono (onid yw'r gerdd ar ryw ystyr yn "canu'r tir", fel y gwnai pobl yr Aborijini?) a gwybod drwy'r adnabyddiaeth yna lle'n "union" i fynd i ganfod planhigyn at ddefnydd. Mae'n llun athrist ar un ystyr hefyd ac yn dwyn i gof brawddeg olaf [cyfieithiad o’r Wyddeleg] Tomás Ó Criomhthain yn The Islandman - "for the like of us will never be seen again."

At hynny, roedd y te a weinodd Beti'n hyfryd ond yn fwyaf cofiadwy oedd y ffordd y torrodd hi'r dorth yn yr hen ddull - dal y dorth o dan y fraich a'r gyllell yn torri tuag ati. Cofio mam yn adrodd y bennill fach yma:

Os yw'th feddwl ar briodi
Edrych ar y dorth wrth dorri.
Os yw hi fel dau gorn lleuad,
Paid â chymryd honno'n gariad.

Sut byddid yn cynghori darpar briodfab heddiw yn oes y bara tafellog, Duw a wyr![3]

Mae’r enwau manwl a lleol a gasglodd Rhys Gwynn am gynefin Beti Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 60 t.3. [4]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]