Mawddwy
Bro, cymuned a chwmwd hanesyddol ym Meirionnydd, Gwynedd yw Mawddwy.
Roedd Mawddwy yn gwmwd oedd yn wreiddiol yn deyrnas annibynnol ac yna'n rhan o Bowys. Yn ddiweddarach, pan basiwyd Y Deddfau Uno 1536 a 1543, daeth yr ardal yn ran o Sir Feirionnydd ac mae'n awr yng Ngwynedd. Mae'r enw yn parhau i gael ei ddefnyddio am yr ardal, sef y tiriogaethau o gwmpas rhan uchaf Afon Dyfi, sy'n tarddu ar lethrau Aran Fawddwy ac yn llifo tua'r de-orllewin. Heblaw Aran Fawddwy, ceir yn enw ym mhentrefi Dinas Mawddwy a Llanymawddwy.
Daeth yr ardal yn enwog oherwydd campau Gwylliaid Cochion Mawddwy. Mae hefyd hen rigwm braidd yn enllibus am yr ardal:
- O Fawddwy tri peth a ddaw:
- Dyn cas, nôd glas a glaw.
Rhennir yr hen gwmwd yn ddau blwyf, sef plwyf Mallwyd i'r de a phlwyf Llanymawddwy i'r gogledd. Fel Penllyn ac Edeirnion mae'n rhan o esgobaeth Llanelwy tra bod gweddill yr hen sir yn rhan o esgobaeth Bangor. Mallwyd oedd prif ganolfan eglwysig y blwyf.
Mae'n bosibl fod Yr Ustus Llwyd, bardd dychanol a fu byw yn y 14eg ganrif, yn frodor o Fawddwy.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd [golygu]
- Ffridd Braich Lwyd (carnedd)