Blaenau Ffestiniog
Oddi ar Wicipedia
| Blaenau Ffestiniog Gwynedd |
|
Mae Blaenau Ffestiniog yn dref yng Ngwynedd sydd gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001).
Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.
Mae'r tir o gwmpas y dref yn rhan o'r parc cenedlaethol, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.
Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan Bapur Bro o'r enw'r Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.
Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionydd.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Tyfodd Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19eg ganrif wedi i ŵr o'r enw Methusalem Jones ddarganfod llechfaen yn yr ardal yn yr 1760au. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif. Ar anterth y diwydiant llechi ar droad yr 20fed ganrif, cododd poblogaeth y dref i 11,434 yn ôl cyfrifiad 1901, gan ei wneud yn ail dref fwyaf gogledd Cymru ar ôl Wrecsam ar y pryd.[1]
[golygu] Diwylliant
Mae rhestr faith o fandiau chwyldroadol Cymraeg yn dod o Flaenau Ffestiniog, yn eu plith: Anweledig, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Frisbee, dau boi o Blaena, Llan Clan a Gwibdaith Hen Fran er enghraifft.
[golygu] Enwogion
- R. Bryn Williams - ganed y llenor a hanesydd yn Blaenau ym 1902 a threuliodd ei blentyndod cynnar yno cyn symud â'r rhieni i'r Wladfa ym Mhatagonia.
- Gwyn Thomas - cafodd y bardd ac ysgolhaig adnabyddus, a aned yn Nhanysgrisiau ei fagu yn y Blaenau.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898. Am wybodaeth bellach gweler:
[golygu] Trafnidiaeth
Saif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Lledr a Dyffryn Conwy. Ceir lein arall, ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol yn dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref cyn dringo Bwlch y Gorddinan. Mae gwasanaethau bws cyson 1B i Borthmadog, sy'n cysylltu â'r gwasanaeth i Fangor ac mae gwasanaethau bws eraill i Landudno, Pwllheli a Dolgellau. Mae Gwasanaeth bws lleol hefyd sy'n cysylltu Tanygrisiau a Rhiwbryfdir gyda chanol y dref.
[golygu] Clybiau a Chymdeithasau
- Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau
- Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
- Clwb Golff Ffestiniog
- Seindorf yr Oakeley
- Côr y Brythoniaid
- Côr y Moelwyn
- Y Fainc Sglodion - cymdeithas hanesyddol leol
- Sgotwrs 'Stiniog
[golygu] Ysgolion
Mae'r dref yn cael ei gwasanaethu gan dair ysgol gynradd, sef:
Mae'r ysgolion hyn yn bwydo'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Moelwyn.
[golygu] Cyflogaeth
Er fod y diwydiant chwareli llechi yn parhau i gyflogi nifer o bobl yn y dref, mae'r diwydiant hwn wedi cael ei ddisodli fel prif gyflogwyr gan ffatri Blaenau Plastics sydd â staff o tua 300. Rhai o gyflogwyr mawr eraill y dref yw ffatri Metcalfe, sy'n creu offer arlwyo, a phwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau. Mae dau gwmni cludiant ffyrdd mawr wedi eu lleoli yn yr ardal hefyd, sef 'Roberts Ffestiniog' o Lan Ffestiniog a 'E. Hughes' o'r Manod.
[golygu] Gwahanol Ardaloedd o'r dref
- Tanygrisiau sy'n ystyried ei hun yn bentref ar wahân.
- Rhiwbryfdir
- Canol y Dref
- Manod
[golygu] Tafarnau'r Dref
- Y Wynnes
- Gwesty'r Manod
- Y Meirion
- Y Cwîns
- Y Cwm
- King's Head
- Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
[golygu] Llyfryddiaeth
- amryw awduron, Chwareli a Chwarelwyr (Caernarfon, 1974)
- Gwyn Thomas, Yn Blentyn yn y Blaenau (1981). Darlith hunangofiannol.
- Gwyn Thomas, Blaenau Ffestiniog (2007 Gomer). Casgliad o gerddi a lluniau.
[golygu] Cysylltiadau allanol
[golygu] Ffynonellau
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Gellilydan · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhyndeudraeth · Pentir · Pentrefelin · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Pwllheli · Rachub · Rhiw · Rhosgadfan · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd-Ddu · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Talybont, Abermaw · Talybont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr


