Anweledig

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Anweledig
"lowts o Flaenau Ffestiniog" - Rhys Mwyn
Gwybodaeth gefndirol
Tras Baner Cymru Blaenau Ffestiniog
Cerddoriaeth Ska / Roc / Reggae
Blynyddoedd 1992-
Label(i) recordio Crai
Cysylltiedig Vates, Mim Twm Llai
Aelodau
Ceri Cunnington - Prif Lais
Gai Toms - Gitar, Llais
Rhys Roberts - Gitar Fâs
Iwan 'Oz' Jones - Gitar Flaen
Alwyn Evans - Drymiau
"Sunshine" Dan Collister - Offerynnau Taro
Jo Buckley - Allweddellau

Y Tri Tôn:
Owain Arwel Davies - Trombôn
Bari Gwiliam - Trwmped
Edwin Humphreys - Sacsoffon

Band o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru yw Anweledig, yn chwarae amrediad o arddulliau Ffync, Reggae, Ska a Roc. Aelodau'r band yw Ceri Cunnington (prif lais), Gai Toms (gitar,cyfansoddi, llais), Iwan 'Oz' Jones (gitar flaen), Rhys Roberts (gitar fas), Alwyn Evans (drymiau) a Joe Buckley (allweddellau) ynghyd ag adran chwyth, 'Y Tri Tôn'.

Daeth Anweledig i'r amlwg yn y Sin Gerddoriaeth Gymraeg yn 1998, wrth ryddhau eu halbwm gyntaf, Sombreros yn y Glaw ar label Crai. Wedi ffurfio yn 1991, dros amser cawsant gigiau â'r Super Furry Animals, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman ac eraill. I gyd-fynd a'u halbwm cyntaf, recordiwyd fideo ar gyfer sioe s4c, i-Dot, o'r gân 'Fan Hyn'.

Yn 1999, rhyddhawyd EP Cae yn Nefyn, eto ar label Crai. Yn arwydd o'u llwyddiant ar y pryd, roeddent yn brif fand yn Maes-B yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd canlynol, rhyddhawyd nifer o CDs gan y band sef Scratchy (Sengl, 2000), Gweld y Llun (Albwm, 2001) a Low Alpine (Sengl, 2001). Gwnaeth hyn Anweledig yn adnabyddus dros Gymru, gyda'u sain unigryw yn gymysgedd o lawer o ddylanwadau. Yn 2002, aethant ar daith drwy Lydaw, cyn cymeryd toriad er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill megis Mim Twm Llai (Gai Toms) a Vates (Oz). Yn 2004, ailffurfiodd y band gan ail-ddechrau gigio a rhyddhau'r EP Byw. Ar ôl cyfnod tawel arall, ailffurfiodd y band am gig fawreddog yn Nhân y Ddraig yn Awst 2006, â'r Proclaimers yn eu cefnogi.

[golygu] Dolenni

Offer personol
Ieithoedd eraill