Tywyn, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°34′59″N 4°05′24″W / 52.58294°N 4.08989°W / 52.58294; -4.08989

Tywyn, Gwynedd
Stryd fawr Tywyn
Stryd Fawr Tywyn
Tywyn is located in Gwynedd
Tywyn

Tywyn Gwynedd
Poblogaeth 2,864 
Cyfeirnod grid yr AO SH585004
Sir Gwynedd
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost TYWYN
Rhanbarth cod post LL36
Cod deialu 01654
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Meirionnydd Nant Conwy
Cynulliad Cymru Dwyfor Meirionnydd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd
Mae hon yn erthygl am y dref ym Meirionnydd. Am y pentref yn sir Conwy gweler Tywyn (Conwy). Gweler hefyd Tywyn (gwahaniaethu).
Glan y môr, Tywyn, Meirionnydd gan edrych i gyfeiriad y de (Aberdyfi)

Tref fechan ar lan Bae Ceredigion ym Meirionnydd, Gwynedd yw Tywyn. Mae Caerdydd 137.7 km i ffwrdd o Tywyn ac mae Llundain yn 297.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 71 km i ffwrdd. Mae'r traeth a'r promenâd yn atyniadau twristaidd poblogaidd. I'r gogledd y mae aber Afon Dysynni, ac i'r gogledd-ddwyrain y mae tir amaethyddol bras Dyffryn Dysynni a phentref Bryn-crug. I'r dwyrain ceir bryniau Craig y Barcud a Chraig Fach Goch.

Yr enw[golygu]

Ystyr y gair tywyn yw 'traeth, glân môr, twyn twyod'; mae twyni tywod eang i'w cael i'r de ac i'r gogledd o'r dref. Digwydd yr elfen tywyn mewn nifer o enwau lleoedd eraill, gan gynnwys Tywyn (neu Towyn) ger Abergele.

Yn Gymraeg, yr ynganiad arferol yw [ˈtəʊ.ᵻn]. Roedd y sillafiadau Tywyn a Towyn ill dau yn gyffredin yn y Gymraeg hyd at ran olaf yr ugeinfed ganrif. Pan safonwyd orgraff y Gymraeg yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, daeth y sillafiad Tywyn yn fwyfwy cyffredin ac erbyn y 1970au derbynnid mai'r sillafiad hwnnw a oedd yn safonol yn y ddwy iaith. Hyd at oddeutu canol yr ugeinfed ganrif, cyfeirid yn achlysurol at y dref fel 'Y Tywyn', ond nid arferir y ffurf honno bellach. Clywir y ffurf Tywyn Meirionnydd hyd heddiw.

Cyn y 1970au, Towyn oedd y sillafiad arferol yn Saesneg. Bellach, ystyrir Towyn yn ffurf Seisnigedig ac yn anaml y'i defnyddir, er bod ambell eithriad.[1] Yn y cyfnod Fictoraidd a hyd at ganol yr ugeinfed ganrif ceir enghreifftiau o'r ffurf Towyn-on-Sea. Yr ynganiad Saesneg arferol hyd heddiw yw /ˈt.ɪn/.

Hanes[golygu]

Sefydlodd Cadfan Sant glas yn Nhywyn yn y 6ed ganrif. Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica wnaeth ef a deuddeg arall. Yn ôl traddodiad Llydaw yw Armorica, er bod rhai yn cynnig mai o ysgol Gristnogol ar lan y môr ym Mhrydain y daeth, megis Llanilltyd Fawr. Yn ôl traddodiad ei glas yn Nhywyn oedd y cyntaf a sefydlwyd ganddo yng Nghymru. Adeiladwyd eglwys o bren yn gyntaf a chofnodir bod yr eglwys wedi ei llosgi ddwywaith gan y Llychlynwyr. Yn y 12fed ganrif adeiladwyd eglwys o gerrig yn y dull Normanaidd, sydd wedi goroesi yn rhan o adeilad presennol Eglwys Sant Cadfan.

Prif drysor yr eglwys hon yw Carreg Cadfan; arni mae'r arysgrif Gymraeg hynaf y gwyddys amdani. Fe'i hysgrifennwyd tua dechrau'r 9fed ganrif, os nad cynt.

Yn Oes y Tywysogion Tywyn oedd un o brif drefi cwmwd Ystumanner, cantref Meirionnydd.

Yn 1877, ceisiwyd adeiladu pier yn Nhywyn. Ni oroesodd y gwaith fwy nag ychydig fisoedd, a phrin yw'r olion a adawyd ganddo.[2] Mae'r stryd 'Pier Road' hyd heddiw yn cynnig awgrym o'i leoliad.

Yr Iaith Gymraeg[golygu]

Cymraeg oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Yn ystod y 1860au, defnyddid 'Welsh Stick' (sef ffurf ar y Welsh Not) yn Ysgol Frutanaidd y dref (rhagflaenydd Ysgol Penybryn) er mwyn cosbi plant a ddaliwyd yn siarad Cymraeg.[3]

Cofnododd Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 fod 40.5% o boblogaeth Tywyn yn gallu'r Gymraeg. Yn 2010, nodwyd mewn adolygiad gan Estyn fod 11% o blant ysgol gynradd y dref yn dod o aelwydydd a oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.[4]

Trigolion nodedig[golygu]

Mae cyswllt rhwng nifer o drigolion mwyaf nodedig y plwy ac Ynysymaengwyn, ystâd y bu i'w sgwïeiriaid ddominyddu'r dref o'r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd yr ugeinfed.

  • Arthur ap Huw: Roedd 'Syr' Arthur ap Huw (a elwid weithiau yn Arthur Hughes) yn ŵyr i Hywel ap Siencyn ab Iorwerth o Ynysymaengwyn ac yn ficer Eglwys Cadfan yn Nhywyn rhwng 1555 a'i farwolaeth yn 1570. Roedd hefyd yn noddwr nodedig i'r beirdd.[5] Fe'i cofir am ei gyfieithiad Cymraeg o destun gwrth-ddiwygiadol George Marshall, A Compendious Treatise in Metre (1554).[6]
  • Dafydd Jones: Roedd nai Arthur ap Huw, David neu Dafydd Johns (a elwid weithiau'n David Jones neu David ap John, bl. 1572-98) yn ffigwr arall amlwg yn y Dadeni Dysg yng Nghymru.[7] Roedd yn or-or-ŵyr i Hywel ap Siencyn, ac fe gopïodd lawysgrif bwysig o gywyddau (Llyfrgell Brydeinig Additional MS 14866) sydd yn cynnwys nifer o gerddi i deulu Ynysymaengwyn.
  • Edward Morgan: Ceir nifer o gerddi o'r ddeunawfed ganrif i'r teuluoedd Owen a Corbet o Ynysymaengwyn ac i'r Parchedig Edward Morgan.[8] Roedd Edward Morgan (m. 1749) yn frodor o Langelynnin, yn frawd i'r llenor ac ysgolhaig John Morgan (Matchin), ac yn ficer Eglwys Cadfan o 1717; ef oedd un o berchnogion llawysgrif David Johns yn ystod rhan gyntaf y ddeunawfed ganrif.
  • Griffith Hughes: Un o blwyf Tywyn oedd y Parchedig Griffith Hughes (1707–c.1758). Ef oedd awdur The Natural History of Barbados (1750), cyfrol sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o'r grawnffrwyth.
  • Edward Jones: Yn 1826, cyhoeddodd Edward Jones o Dywyn Marwolaeth Abel, cyfieithiad o Der Tod Abels gan y bardd o'r Swistir, Solomon Gessner.
  • Ceiriog: Roedd John Ceiriog Hughes ('Ceiriog', 1832–1887) yn rheolwr gorsaf yn Nhywyn am gyfnod byr o 1870.
  • Glasynys: Ar 4 Ebrill, 1870, bu farw'r offeiriad, yr hynafiaethydd, yr awdur a'r bardd Owen Wynne Jones (Glasynys) (1828-1870) yn Nhywyn.
  • Joseph David Hughes: Bu'r cerddor Joseph David Jones (1827–1870) yn ysgolfeistr yn Nhywyn am gyfnod, gan gwrdd â'i wraig yno. Yno hefyd y magwyd ei feibion rhwng 1870 a 1877, gan gynnwys Sir Henry Haydn Jones (1863-1950), a fu'n aelod seneddol ar Feirionnydd ac a dreuliodd bron y cyfan o'i oes yn byw yn y dref, a'r gweinidog nodedig gyda'r Annibynwyr yn Lloegr, John Daniel Jones (1865-1942).

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tywyn (pob oed) (3,264)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tywyn) (1,189)
  
37.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tywyn) (1434)
  
43.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Tywyn) (785)
  
49%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Er enghraifft, enw cangen 'Towyn and Aberdovey' o'r Royal Air Forces Association.
  2. Wilkinson, Jeremy. 1984. Tywyn Pier. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 9.4, tt. 457-71.
  3. Archifdy Meirionnydd, Archifau Gwynedd, Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76, Casglu'r Tlysau: Y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig.
  4. Williams, William Edwards. 2010. Adroddiad ar ansawdd addysg yn Ysgol Penybryn, Tywyn, Gwynedd, t. 1.
  5. Fychan, Cledwyn. 1979. Canu i wŷr eglwysig gorllewin Sir Ddinbych. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 28, p. 120.
  6. Bowen, Geraint. 1956. Arthur ap Huw. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 9.3, t. 376.
  7. (Saesneg) Roberts, Brynley F. (2004). "Johns, David (fl. 1572–1598)". Oxford Dictionary of National Biography (online ed.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/14987.  (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  8. Owen, Bob, 1962. Cipolwg ar Ynysymaengwyn. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd, 4.2, tt. 97-118.
  9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.