Orgraff

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

System sillafu gonfensiynol (neu safonol) yw orgraff. Defnyddir arwyddion gweledig - llythrennau - i geisio cyfleu'r seiniau llafar; gelwir cyfanswm yr arwyddion hyn yn wyddor, e.e. yr wyddor Ladin.

Mae orgraff unrhyw un iaith yn tueddu i amrywio o gyfnod i gyfnod yn hanes yr iaith honno. Dim ond yn bur ddiweddar y ceisiwyd safoni orgraff yn yr ieithoedd Ewropeaidd; cyn i eiriaduron ddod yn gyffredin roedd orgraff yn tueddu i fod yn fympwyol. Gwelir hyn yn achos y Gymraeg. Er i orgraff Cymraeg Canol fod yn bur sefydlog (er bod sillafiad gair yn amrywio), yng nghyfnod y Dadeni ceisiodd y Dyneiddwyr fel William Salesbury ac, yn ddiweddarach, Gruffydd Robert, ddiwygio'r orgraff a chreu arwyddion newydd i gynrychioli seiniau'r iaith. Cafwyd sawl ymgais arall ond doedd gan Gymru ddim prifysgol na sefydliad arall a allasai safoni'r orgraff ac mewn canlyniad arosodd orgraff yr iaith Gymraeg yn fympwyol a dadleuol hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Brithir llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif â geiriau gwneud yn orgraff ryfedd William Owen Pughe, er enghraifft. Cyhoeddodd Syr John Morris-Jones ei lyfr Orgraff yr Iaith Gymraeg yn 1928, sail Cymraeg ysgrifenedig safonol heddiw, sy'n gosod allan argymhellion Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ar orgraff yr iaith.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Ling template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.