Ystumanner

Oddi ar Wicipedia
Ystumanner
Castell y Bere yn Nyffryn Dysynni
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.65819°N 3.9715°W Edit this on Wikidata
Map

Un o ddau gwmwd cantref Meirionnydd oedd Ystumanner.

Gorweddai ar lan Bae Ceredigion yn hanner deheuol y cantref gyda chwmwd Tal-y-bont i'r gogledd. Dynodai afon Dysynni a ffrwd lai afon Cader, yn Nyffryn Dysynni, ac ysgwydd deheuol Cadair Idris y ffin rhwng y ddau gwmwd. I'r dwyrain ffiniai â chwmwd Mawddwy (o 1284 ymlaen) a chantref Cyfeiliog. Dros aber Dyfi i'r de roedd Genau'r Glyn, Ceredigion.

Mam-eglwys y cwmwd oedd Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, sy'n dyddio i'r 6g. Ceir yr arysgrif Gymraeg gynharaf ar faen yn yr eglwys. Ceid eglwysi pwysig eraill oedd yn gapeli eglwys perthynol i Egwlys cadfan sef yn Llanfihangel y Pennant, Llanfair Bryn Muallt, a Phennal.

Canolwyd y cwmwd ar y Domen Las ym Mhennal er credir efallai bod y ganolfan weinyddol wreiddiol o fewn muriau'r hen gaer Rhufeinig, Maglona neu Gefn Caer heddiw sydd gerllaw. Y Domen Las oedd llys y cwmwd am rai canrifoedd ac mae'n debyg mai yma y daeth tywysog Powys, Gruffudd ap gwenwyn i dalu gwrogaeth i Lywelyn ap Gruffydd yn 1263, er yr ymrafael fu am diroedd Llanwrin rhyngddynt. Yn ôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru - 'Castell canoloesol wedi'i gynrychioli gan domen neu fwnt yw'r omen Las, a fyddai'n wreiddiol wedi'i choroni a thwr ffram pren mawreddog.... fwy na hebyg roedd yn gysylltiedig a chwrt neu lys Tywysogion Gwynedd ym Mhennal.'

Roedd yna gastell bychan ger Tywyn, sef Castell Cynfael, a godwyd yn 1147 gan Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan ac a losgwyd yn yr un flwyddyn gan Hywel ab Owain Gwynedd a'i frawd Cynan ab Owain Gwynedd. Ond y prif amddiffynfa yn yr Oesoedd Canol oedd Castell y Bere, ger Llanfihangel y Pennant yn Nyffryn Dysynni (ymddengys fod y ffin rhwng dau gwmwd cantref Meirionnydd wedi newid rywfaint yn yr Oesoedd Canol i wneud plwyf Llanfihangel gyfan yn rhan o Ystumanner). Roedd y mwyafrif o'r trigolion yn byw mewn "trefi" canoloesol yn rhan isaf y cwmwd ar yr arfordir, e.e. Trefri ger Aberdyfi, neu yn y cymoedd, e.e. Corris.

Teithiodd Gerallt Gymro ar hyd arfordir y cwmwd yn 1188 (gweler Hanes y Daith Trwy Gymru). Cysylltir plwyf Pennal â Lleucu Llwyd, cariad y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn y 14g. Yna yn 1406 cynhaliodd Owain Glyndwr ei senedd olaf yma, lle lluniodd ei lythyr i frenin Siarl II o Ffrainc, yn y ddogfen bwysig lle mae'n amlinellu ei weledigaeth 'Polisi Pennal' yn 'Llythyr Pennal' sydd o hyd yn Archives Nationale ym Mharis.

Yn 1284, gyda Statud Rhuddlan, daeth y cwmwd yn rhan o Sir Feirionnydd. Erbyn heddiw mae'n rhan o dde Gwynedd.

Ceir cyfeiriadau hefyd at Ystumanner uwch Buga ac Is Buga ynghyd â Phennal Uwch Buga ac Is Buga er na ellid bod yn siwr pryd oedd y rhaniadau hynny. Efallai mai dros dro ydoedd pan gymerodd Llywelyn ap Gruffydd blwyf Llanwrin oherwydd diffyg teyrngarwch Gruffydd ap Gwenwynwyn o Bowys.

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Melville Richards, "Rhaniadau'r Canol Oesoedd", yn Atlas Meirionnydd (2il arg. Y Bala, 1975)