Afon Dysynni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Dysynni ger Craig yr Aderyn
Afon Dysynni a Morfa Gwyllt, ger Tywyn

Mae Afon Dysynni yn afon ym Meirionnydd, de Gwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru.

Cwrs[golygu]

Mae Afon Dysynni yn tarddu ar lethrau Cadair Idris uwchben Llyn Cau. Ar ôl llifo trwy Llyn Cau mae'n llifo'n gyflym i lawr y llethrau nes cyrraedd Llyn Mwyngil. Wedi gadael y llyn yma mae'n llifo'n fwy hamddenol tua'r de-orllewin heibio Abergynolwyn, lle mae Nant Gwernol yn ymuno a'r afon. Gerllaw Castell y Bere mae Afon Cadair yn ymuno a'r Dysynni ac mae'r tir yn agor i ffurfio Dyffryn Dysynni. Mae'r afon yn mynd heibio Llanegryn, plasdy hynafol Peniarth a Bryncrug ar ei wely gwastad ac yn cyrraedd y môr yn Aberdysynni, i'r gogledd o dref Tywyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato