Talsarnau

Oddi ar Wicipedia
Talsarnau
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9035°N 4.0646°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000099 Edit this on Wikidata
Cod OSSH612358 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Talsarnau ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y briffordd A496 rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Ychydig i'r gorllewin mae Traeth Bach, aber Afon Dwyryd, ac Ynys Gifftan. I'r de o'r pentref, i gyfeiriad Harlech, mae ffermdy Y Lasynys Fawr, lle ganed Ellis Wynne (1671-1734), awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc.

Un arall o Dalsarnau oedd y nofelydd Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan), awdures Plant y Gorthrwm, a aned yno yn 1852 yn ferch i felinydd.

Olion hynafol[golygu | golygu cod]

Ceir Clwstwr cytiau caeedig Nurse Cae Du gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd a'r cytiau canlynol: yr Onnen, Cam Moch, Moel y Glo a Choety Bach.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Talsarnau (pob oed) (550)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Talsarnau) (332)
  
61.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Talsarnau) (333)
  
60.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Talsarnau) (112)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato