Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)
Nofelydd a bardd Cymreig oedd Annie Harriet Hughes (1852 - 25 Ebrill, 1910), sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol Gwyneth Vaughan. Bu'n awdures boblogaidd yn ei chyfnod ac roedd ei gwaith yn gymeradwy gan feirniaid llenyddol fel Owen M. Edwards.
Bu'n is-lywydd An Comunn Gaedhealach yr Alban yn 1903 a rhwng 1893-6 sefydlodd dros 143 cangen o'r British Women's Temperance Association, a bu'n ysgrifennydd mygedol y Welsh Union of Women's Liberal Association am 10 mlynedd. Ar ben hyn i gyd roedd yn un o sefydlwyr Undeb y Ddraig Goch a Chymru Fydd.[1]
Merch o Dalsarnau, Meirionnydd (de Gwynedd bellach) oedd hi. Melinydd oedd ei thad. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol ond tyfodd i fyny mewn cymdeithas wledig ddiwylliedig a oedd yn nwfn yn "Y Pethe" a darllenodd yn eang. Yn 1876 priododd y meddyg John Hughes Jones; yn nes ymlaen gadawsant y "Jones" allan o'r enw a galw eu hunain yn "Hughes" yn unig. Aethant i fyw i Lundain am gyfnod ac wedyn i Dreherbert ym Morgannwg. Gadawyd Annie i ofalu am eu pedwar plentyn ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1902. Symudodd o Dreherbert i Fangor, Gwynedd, a dechreuodd lenydda yn broffesiynol ar anogaeth ei ffrindiau.
Fe'i cofir yn bennaf am y nofelau O Gorlannau'r Defaid (1905) a Phlant y Gorthrwm (1908), a gyhoeddwyd yn gyfresi yn Y Cymro yn wreiddiol cyn cael eu cyhoeddi fel llyfrau. Lleolir y ddwy nofel yng nghefn gwlad Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Diwygiad 1859 yw pwnc O Gorlannau'r Defaid ac etholiad mawr 1868 a'i effaith ar y werin bobl ym Meirionnydd yw cefndir Plant y Gorthrwm.
Barddonai hefyd, a chyfranodd sawl cerdd i gylchgronau fel Cymru O.M. Edwards.
Etifeddwyd ei dawn llenyddol gan ei mab, Arthur Hughes (1878-1965), a ymfudodd i'r Wladfa yn 1911 ac a oedd yn olygydd barddoniaeth.
Bu farw Gwyneth ym Mhwllheli.
Cyfeiriadau [golygu]
Llyfryddiaeth [golygu]
- O Gorlannau'r Defaid (1905)
- Plant y Gorthrwm (1908)
- Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (1908)
- Troad y Rhod (heb ei gorffen; cyhoeddwyd yn rhannol yn Y Brython, 1909)