Llangybi, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°56′41″N 4°20′24″W / 52.94465°N 4.34005°W / 52.94465; -4.34005

Llangybi, Gwynedd
Ffynnon Gybi - geograph.org.uk - 102127.jpg
Ffynnon Gybi
Llangybi is located in Gwynedd
Llangybi

 Llangybi yn: Gwynedd
Cyfeirnod grid yr AO SH4241
Cymuned Llanystumdwy
Prif ardal Gwynedd
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost PWLLHELI
Rhanbarth cod post LL53
Cod deialu 01766
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Caernarfon
Cynulliad Cymru Dwyfor Meirionnydd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd

Pentref bychan yn ardal Eifionydd, Gwynedd yw Llangybi. Gorwedd ar ffordd wledig tua 6 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bwllheli.

Cynnwys

Ffynnon Gybi [golygu]

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llangybi gan Sant Cybi, nawddsant Caergybi ar Ynys Môn. Mae'n adnabyddus am Ffynnon Gybi, tua 400 medr o'r eglwys, hen ganolfan bererindod leol ar un o'r llwybrau hynafol i Ynys Enlli. Ceir adfeilion hen gell feudwy yno. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am ragweld ffyddlondeb cariadon. Ar un adeg roedd yna llysywenod yn y ffynnon; credid byddai claf yn dioddef o anhwyldra yn ei goes yn gwella pe bai un o'r pysgod hynny yn rwbio yn ei erbyn wrth iddo sefyll yn y ffynnon. Codwyd to dros y ffynnon ac roedd ceidwad yno i ofalu am yr ymwelwyr.[1] Mae'r safle yng ngofal Cadw.

Llangybi

Addysg [golygu]

Ceir Ysgol Llangybi yn y pentref, ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg sydd yn nhalgylch Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.

Gweler hefyd [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. T. D. Beverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000), d.g. Cybi.