Caergybi
Oddi ar Wicipedia
| Caergybi Ynys Môn |
|
Caergybi (Saesneg: Holyhead) yw tref fwyaf Sir Fôn (efo poblogaeth tua 12,000), ar Ynys Gybi. Mae'r dref yn borthladd mawr: mae sawl fferi yn teithio rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn cychwyn ac yn gorffen yn y dref.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Roedd caer Rufeinig Caer Gybi ar y safle yma o ddiwedd y 3edd ganrif. Bellach mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r murian yn dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr. Credir bod y gaer yma at defnydd y llynges Rufeinig. Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu mynachlog.
[golygu] Goleudai
Ar ben Mynydd Twr adeiladodd y Rhufeiniaid y goleudy cyntaf yn yr ardal. Heddiw, nid oes ond y seiliau i'w gweld. Mae goleudai newydd yn gweithio ar Ynys Lawd (wrth y mynydd), trwyn y morglawdd (yn y porthladd), Ynys Halen (yn y porthladd) ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn bellach allan yn y môr, i'r gogledd.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaergybi ym 1927.
[golygu] Cludiant
Caergybi yw terminws / man cychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, sy'n ei chysylltu â Crewe.
Mae cwmnïau fferi yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon.
Mae nifer o fysus yn rhedeg yn ardal Caergybi ac yn ei chysylltu â llefydd eraill ar yr ynys. Y pwysicaf yw'r gwasanaethau i Fangor a Llangefni. Mae'r A55 yn dechrau yn y dref. Fel yr E22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi ag Ekaterinburg yn Rwsia.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Caergybi.com
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachreth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llanynghenedl · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Niwbwrch · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Trearddur · Trefor · Tregele
