Llanddyfnan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llanddyfnan.

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig ym Môn yw Llanddyfnan. Gorwedd yn ne-ddwyrain Ynys Môn ar y ffordd B5109 rhwng Pentraeth i'r dwyrain a Llangefni i'r gorllewin.

Enwir y plwyf ar ôl Sant Dyfnan. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ceir maen hir cynhanesyddol ger y ficerdy.

Cysylltir y teulu o gyfreithwyr Cymreig canoloesol a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu' â Llanddyfnan. Roedd y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1283, yn aelod o'r teulu hwnnw.

Ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio i'r de o'r pentref.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddyfnan (pob oed) (1,061)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddyfnan) (724)
  
70.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddyfnan) (729)
  
68.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanddyfnan) (138)
  
32%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.