Llangefni

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Llangefni
Ynys Môn
Image:CymruMon.png
Image:Smotyn_Coch.gif

Mae Llangefni yn dref yng nghanol Ynys Môn ac wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw. Lleolir swyddfeydd Cyngor Ynys Môn yno. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae gan Llangefni boblogaeth o 4,499 o bobl. Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon.

Yn y dref ceir Oriel Ynys Môn, gyda amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe. Yng ngorllewin y dref ceir Ysgol Gyfun Llangefni.

I'r gogledd mae eglwys y plwyf, Eglwys Cyngar Sant, yn sefyll mewn coed yn y Dingle. Un o enwau'r dref yn y gorffennol oedd 'Llangyngar', hen enw'r eglwys.

Mae Clwb Peldroed Llangefni yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru.

[golygu] Enwogion

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni ym 1957 a 1983. Am wybodaeth bellach gweler:


Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol