Llandegfan

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Llandegfan. Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthaethwy ac i'r gogledd o'r briffordd A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares.

Mae'r pentref mewn dwy ran; y pentref gwreiddiol yw'r hyn a elwir yn awr yn Hen Landegfan, o gwmpas yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tegfan. Tyfodd y rhan arall, sydd gryn dipyn yn fwy, i'r de o'r hen bentref ac yn nes at yr A545.

Gweithio yn ninas Bangor y mae'r mwyafrif o'r trigolion. Bu Aled Jones yn byw yma pan oedd ei fam yn athrawes yn yr ysgol gynradd.

Cynhelir Eisteddfod Môn 2008 yn Llandegfan.

[golygu] Cysylltiad allanol


Ieithoedd eraill