Llannerch-y-medd

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Llannerch-y-medd
Ynys Môn
CymruMon.png
Smotyn Coch.gif
Erthygl am y pentref ym Môn yw hon. Gweler hefyd Llannerch.

Pentref ar Ynys Môn yw Llannerch-y-medd. Fe'i lleolir ger Llyn Alaw, yng nghanol yr ynys.

Mae'r enw (llannerch, "lle agored wedi ei glirio" a mêl, "diod wedi ei gwneud o fêl") yn awgrymu bod digon o wenyn yno i gasglu mêl yn y gorffennol.

Mae ysgol gynradd, siop gyffredin, siop flodau a siop sglodion yn Llannerch-y-medd. Mae hefyd Glwb Ieuenctid a pharc.

[golygu] Clorach

Tua milltir a hanner i'r dwyrain o'r pentref ceir hen blasdy Clorach (fferm heddiw), a fu'n gartref i Gwilym ap Tudur a chyrchfa i'r beirdd yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones, arferai'r seintiau cynnar 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach am ei fod yng nghanol yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18fed ganrif. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn!


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Ieithoedd eraill