Mêl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mêl

Hylif melys a gynhyrchir gan wenyn yw mêl. Mae lliw a blas mêl yn dibynnu ar y blodau yr ymwelodd y gwenyn â nhw yn ystod eu gwaith hel neithdar.

Mae mêl yn gymysgedd o nifer o siwgrau (yn bennaf ffrwctos a glwcos) ac mae'n cynnwys fitaminau (B6 ac eraill), mwynau (calsiwm, copr, haearn, magnesiwm, manganîs, ffosfforws, potasiwm, sodiwm a sinc), rhai asidau amino ac ensymau.

Bwyd[golygu]

Fel arfer, defnyddir mêl i goginio a phobi neu i'w ledaenu ar fara neu dost. Defnyddir mêl hefyd i roi blas ar ddiodydd fel te.

Diod feddwol wedi'i wneud o fêl yw medd. Ar un adeg ystyrid mai medd oedd y ddiod orau y gellid ei chael; sonnir yn y Gododdin mai dyna a gâi milwyr yr Hen Ogledd i'w yfed cyn mynd i'r gad.

Ymhlith y blasau mwyaf poblogaidd y mae Blodeuyn Acasia (yn bennaf o Ddwyrain Ewrop), Blodeuyn Afal a Cheirios (o Brydain) a Chneuen gastan (De Ewrop).

Gall mêl fod yn hylif neu yn hufen, gan fod crisialau siwgwr yn ffurfio ar ôl peth amser. Mae mêl crwybr, mêl â darnau o grwybr a mêl talpiau yn cynnwys darnau o grwybr cwyr sydd yn fwytadwy hefyd.

Meddygol[golygu]

Mae rhai pobl yn meddwl fod mêl yn gwneud lles i'ch iechyd.

Nid yw'n iachusol bob tro, fodd bynnag. Gall mêl achosi afiechyd peryglus iawn (infant botulinism) i blant dan ddeunaw mis oed.

Cyswllt allanol[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am mêl
yn Wiciadur.