Asid amino

Oddi ar Wicipedia
Asid amino
Enghraifft o'r canlynoldosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol Edit this on Wikidata
MathAmin, organic acid Edit this on Wikidata
Rhan oresponse to amino acid, cellular response to amino acid stimulus, vacuolar amino acid transmembrane transport, amino acid transmembrane transport, amino acid:proton symporter activity, amino acid:sodium symporter activity, amino acid:cation symporter activity, amino acid transport, amino acid transmembrane transporter activity, ABC-type amino acid transporter activity, amino acid:potassium symporter activity, amino acid export across plasma membrane, amino acid transmembrane export from vacuole, amino acid transmembrane import into vacuole, neutral amino acid transmembrane export from vacuole, basic amino acid transmembrane import into vacuole, neutral amino acid transmembrane import into vacuole, amino acid import, amino acid neurotransmitter reuptake, amino acid import across plasma membrane, amino acid homeostasis, amino acid binding, amino acid sensor activity, amino acid:monoatomic cation antiporter activity Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adeiledd cyffredinol asid amino α efo'r grŵp amin ar y chwyth a'r grŵp carbocsyl ar y dde.

Dosbarth pwysig o fetabolitau (sef molecylau prosesau celloedd byw) yw’r asidau amino. Maent yn gyfansoddion carbon sy'n cynnwys dau grŵp gweithredol; grŵp amin a grŵp asid carbocsylig ynghyd â grŵp ychwanegol sy’n nodwedd i’r asidau amino unigol.  Nodwedd o bob math o fywyd ar y ddaear ydynt. Mae iddynt bwysigrwydd fel molecylau unigol a hefyd mewn polymerau. Eu polymerau mwyaf nodweddiadol yw proteinau. Gall y cadwynau hyn cynnwys degau o filoedd o asidau amino unigol (ee 27,000 i Titin [1]), ond ychydig gannoedd sy’n arferol.  O’r cannoedd o asiadu amino naturiol sy’n bodoli, tua 20 sy’n cysylltu â'i gilydd i ffurfio proteinau. Ym mhob un o’r rhain mae’r grŵp amin a’r grŵp asid carbocsylig wedi’u cysylltu’n uniongyrchol a charbon α y gadwyn garbon. (Sef rhif 2 - gan mai atom carbon yr asid carbocsylig yw rhif 1.)  Felly ei gelwir yn asidau amino α.

Mae gan y carbon cirol bedwar bond: un i gadwyn amrywiol (labelwyd R), un i atom hydrogen, un i grŵp amino ac un i'r grŵp carbocsyl (COOH).

Cymeriad amffoterig[golygu | golygu cod]

Mae asidau amino yn cynnwys y grwpiau gweithredol basig NH2 (amin) a'r grŵp asidig COOH (asid carbocsylig) ac felly maent yn ymddwyn yn amffoterig (fel asidau a basau).

Peptidau[golygu | golygu cod]

Mae proteinau yn hanfodol ar gyfer bywyd a phroteinau yw prif gynhwysion gwallt, croen, cyrn, cyhyr, haemoglobin, ensymau, firysau, gwaed, a nifer o organebau eraill. Cyfansoddion a ffurfir gan gadwyni o asidau amino yw peptidau- sy'n gysylltiedig trwy'r bond peptid.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]