Ffair Fêl Conwy

Oddi ar Wicipedia
Ffair Fêl Conwy

Ffair hynafol a gynhelir i werthu mêl yw Ffair Fêl Conwy. Fe gynhelir yn flynyddol ar y 15fed o Fedi yn nhref Conwy yn Sir Conwy, gogledd Cymru, a hynny ers dros 700 mlynedd.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffair Fêl Conwy yn 1960

Sefydlwyd y ffair fêl dan siarter Bwrdeisdref Aberconwy ar ddiwedd y 13g, yn nheyrnasiad Edward I o Loegr, er mwyn galluogi Cymry lleol i werthu mêl yn y dref gaerog honno a hynny ar adeg pan oedd yn fwrdeistref Seisnig. Cofnodir anfon "pibell o fêl" o Aberconwy i Gastell Rhuddlan; cost y cludiant oedd 1 swllt 4 ceiniog.[1]

Cymreigwyd y dref - a'r ffair - gyda'r blynyddoedd. Yn 1835 cofnodwyd bod llewyrch ar y Ffair Fêl ac yn 1911 cofnowyd ei bod yn un o ddeg ffair flynyddol a gynhelid yng Nghonwy; o'r deg hynny dim ond y Ffair Fêl a Ffair Hadau Conwy sy'n dal i fynd heddiw.[1]

Bu bron iawn i'r ffair ddarfod yn 1983 yn dilyn cyfres o hafau gwael i wenynwyr lleol ond cymerodd Cyngor Tref Conwy yr awennau ac achubwyd y ffair.[1] Ers 1990 trefnir y ffair gan Gymdeithas Gwenynwyr Conwy gyda'r elw yn mynd at yr elusen Gymreig Bees for Development.[2] Ceir stondinau crefft a chynnyrch lleol arall yn ogystal â stondinau mêl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 'Conwy Honey Fair' Archifwyd 2014-12-25 yn y Peiriant Wayback., Peter McFadden.
  2. gwefan Cymdeithas Gwenynwyr Conwy. Adalwyd 13.01.2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]