Medd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Medd

Diod feddwol wedi ei wneud yn bennaf o fêl, dŵr a berman yw medd. Dywedir ei fod yn un o ddiodydd alcoholaidd hynaf Ewrop sydd wedi bod yn boblogaidd yn bennaf yn y gogledd, lle na ellir magu grawnwin yn llwyddiannus at ddiben cynhyrchu gwin.

Ceir llawer o gyfeiriadau at fedd mewn barddoniaeth Gymraeg, cyn belled yn ôl a'r Gododdin.

Alcohol drinking icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddiod alcoholaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.