Llanynghenedl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Maen hir Llanynghenedl.

Pentref bychan yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanynghenedl. Saif ar y briffordd A5025 gerllaw ei chyffordd gyda'r B5109, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Fali ac i'r de o Lanfachraeth.

Dywedir fod yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Enghenedl (amrywiad: Ynghenedl), ar safle eglwys hŷn yn dyddio i'r 7fed ganrif.

Ceir maen hir mewn cae ger y pentref a adnabyddir fel 'Maen hir Llanynghenedl'.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato