Maen hir

Oddi ar Wicipedia

Defnyddir y term maen hir am faen o faint sylweddol wedi ei gosod ar ei sefyll yn y tir yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, yn aml tua diwedd y cyfnod Neolithig a dechrau Oes yr Efydd. Fe'i ceir ar draws ardaloedd helaeth o orllewin Ewrop, a cheir meini hirion tebyg mewn rhai rhannau eraill o'r byd. Nid oes sicrwydd am eu pwrpas.

Mewn nifer o ieithoedd defnyddir y term Menhir, term a fabwysiadwyd i'r Ffrangeg o'r Llydaweg, er mai'r enw Llydaweg modern ar faen hir yw peulvan.

Meini hirion Karnag

Ceir y casgliad mwyaf o feini hirion yn Karnag, Llydaw, lle maent wedi eu trefnu yn rhesi. Ceir casgliad ail-fwyaf Ewrop o feini hirion yn La Cham des Bondons yn département Lozère yn ne Ffrainc, lle nad ydynt wedi eu trefnu yn ôl patrwm arbennig. Gallant hefyd fod mewn grwpiau bychain, neu yn unigol, a gall maint y maen amrywio'n sylweddol. Maen hir mwyaf yw'r un yn Locmariaquer, Llydaw, sydd yn awr wedi torri'n bedwar darn, ond a fyddai wedi bod bron yn 20 medr o uchder pan yn gyfan. Maen hir Kerloas, 9.5 medr o uchder, yw'r maen hir talaf sy'n dal yn sefyll yn Llydaw. Maent hefyd yn gyffredin yn Iwerddon a rhannau o wledydd Llychlyn. Weithiau, ceir meini hirion wedi eu trefnu i ffurfio cylch cerrig.

Ceir nifer fawr o feini hirion yng Nghymru. Un enghraifft yw'r ddau faen hir sy'n rhoi ei enw i Bwlch y Ddeufaen yn y Carneddau. Yn Llanfechell ar Ynys Môn, ceir tri maen wedi eu trefnu yn driongl.

Meini hirion Cymru[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]