Rhys Mwyn

Oddi ar Wicipedia
Rhys Mwyn
Ganwyd1 Gorffennaf 1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharcheolegydd, cerddor, cyflwynydd radio, canwr Edit this on Wikidata

Mae Rhys Mwyn (ganwyd 1 Gorffennaf 1962) yn golofnydd ac archaeolegydd ac yn gyn ganwr a chwaraewr gitar fas gyda'r band roc/pync Cymraeg, Anhrefn. Ers 2016, mae'n cyflwyno ei raglen radio "Recordiau Rhys Mwyn", ar nos Lun ar BBC Radio Cymru.

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gwynedd Rhys Thomas yn yr Amwythig a fe'i magwyd yn Llanfair Caereinion. Roedd ei dad, Ieuan Thomas, yn athro ffiseg yn yr ysgol uwchradd. Astudiodd archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bathwyd yr enw 'Rhys Mwyn' mewn camgymeriad gan y cyflwynydd radio Nic Parry tua 1980. Roedd Mwyn wedi danfon datganiad gwasg at Radio Cymru yn cynnwys cyfeiriad post yr Anhrefn yn 'Llys Mwyn', cartref aelod arall o'r grŵp. Drwy gamgymeriad felly, cyfeiriwyd at 'Rhys Mwyn' ac ers hynny dyna'r llysenw mae'n ei arddel. Yn 1983 sefydlodd Mwyn a'i frawd Sion y label Recordiau Anhrefn yn bennaf i ryddhau recordiau ei grŵp Yr Anhrefn, ond fe aeth y label ymlaen i ryddhau nifer o artistiaid amgen y cyfnod.

Gyrfa gerddorol[golygu | golygu cod]

Anhrefn (1980 - 1994)[golygu | golygu cod]

Ym 1987, daeth Anhrefn y band Cymraeg cyntaf eu hiaith i arwyddo i Gwmni Recordio Rhyngwladol a recordio dwy albwm, "Defaid, Skateboards & Wellies" ym 1987 a "Bwrw Cwrw" ym 1989. Ym 1990, arwyddodd Anhrefn i Crai, label recordio a grewyd gan Dafydd Iwan, fel rhan o Gwmni Recordiau Sain. Rhyddhaodd Mwyn a'r band eu cân mwyaf adnabyddus, "Rhedeg i Baris". Bu'r band yn teithio o amgylch Ewrop yn barhaus yn ystod y cyfnod hwn gyda'r nod o wasgaru dylanwad cerddoriaeth Gymraeg mor bell a phosib.[1]

Hyrwyddwr cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Yn ystod y cyfnod y bu'n aelod o Anhrefn, bu Mwyn yn gyfrifol am redeg y cwmni recordiau annibynnol "Recordiau Anhrefn" a ryddhaodd recordiau cynnar gan y Cyrff, Datblygu, Llwybr Llaethog, Fflaps, Tynal Tywyll ac eraill.

Yn ddiweddarach, dechreuodd Mwyn weithio ar ei ben ei hun ar ran label Crai, gan arwyddo Catatonia a chan ryddhau dwy EP, "For Tinkerbell" ym 1993 a "Hooked" ym 1994, ychydig cyn i Catatonia arwyddo cytundeb gyda Warner Brothers. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd Mwyn fel "rheolwr gweithredol" i Catatonia.

Hen Wlad fy Mamau[golygu | golygu cod]

Ym 1994, dechreuodd weithio ar brosiect Hen Wlad fy Mamau gyda Jamie Reid ac aelodau Anhrefn Sion Sebon a'r drymiwr Dafydd Ieuan sydd bellach gyda'r Super Furry Animals. Aeth "Hen Wlad fy Mamau" ar daith o amgylch yr Unol Daleithiau ym 1996, gan arwyddo cytundeb gyda label newydd Richard Branson, V2. Rhyddhawyd dwy sengl, “Tra Di Di” 1997 a “Dis-UK” ym 1997 .

Colofnydd[golygu | golygu cod]

Mae'n golofnydd rheolaidd yn Yr Herald Cymraeg.

Rhyddhawyd ei hunangofiant Cam o'r Tywyllwch gan Y Lolfa yn 2006.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bywgraffiad o wefan Y Llolfa Archifwyd 2020-09-28 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 15-10-2018

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]