Meini hirion Bryn Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Meini hirion Bryn Gwyn
Llanidan
Meini hirion Bryn Gwyn

Cylch cerrig ar Ynys Môn yw meini hirion Bryn Gwyn neu Gastell Bryn-gwyn, sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Fe'u lleolir yn ne-orllewin yr ynys ger safle archaeolegol arall, Castell Bryn Gwyn, tua 3 milltir i'r dwyrain o Niwbwrch a thua milltir a hanner i'r gorllewin o Frynsiencyn.[1] Cyfeirnod OS: 462669.

Y ddwy garreg sy'n weddill o feini hirion Bryn Gwyn.

Llifa Afon Braint heibio ychydig i'r gorllewin o'r safle, sy'n un o sawl safle cynhanesyddol yn yr ardal, gan gynnwys Caer Leb a siambr gladdu Bodowyr.

Yn ôl disgrifiadau cynnar, bu naw carreg yn y cylch ar un adeg, ond dim ond dwy sy'n aros heddiw, yn mesur 4 a 3 medr o uchder. Roeddent yn sefyll mewn cylch gyda diametr o tua 12 metr[2], a hwnnw y tu mewn i ffos gyda chlawdd allanol, adeiladwaith sy'n awgrymu eu bod yn yr un traddodiad cylchoedd henge â chylch diflanedig ger Llandygái, dros y Fenai ger Bangor.[3]

Oriel[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Coflein, Cadw
  2. [ Gweler Burl (Guide to the Stone Circles of Britain, Ireland and Brittany 1995, 2005)
  3. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978), tud. 45.