Cylch cerrig

Oddi ar Wicipedia
Cylch cerrig Côr y Cewri, Lloegr.
Cylch cerrig Bryn Cader Faner.

Defnyddir y term cylch cerrig am hynafiaethau lle mae meini hirion wedi ei gosod i ffurfio cylch. Yn y Llydaweg a rhai ieithoedd eraill, defnyddir y term "cromlech" neu "krommlec'h". Gall y nifer o feini amrywio rhwng 4 a 60. Ceir rhai yng Ngwlad y Basg hefyd. Credir bod y rhain yn dyddio o'r cyfnod Neolithig neu o ddechrau Oes yr Efydd: rhwng 5,300 a 3,500 o flynyddoedd yn ôl; hynny yw, 3300 a 900 cc, cyfnod o 2,400 o flynyddoedd. Ceir llawer o esiamplau o gylchoedd cerrig yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a Llydaw. Mae 1,300 wedi'u cofnodi ond credir fod dros 4,000 ohonynt yn wreiddiol.[1]

Nid oes sicrwydd beth oedd eu pwrpas; cred rhai bod rhai o'r meini wedi eu gosod i gyfateb a lleoliad yr haul, y lleuad a/neu'r sêr ar wahanol adegau o'r flwyddyn, a'u bod yn medru gweithredu fel rhyw fath o galendr.

Yng ngwledydd Llychlyn, roedd traddodiad o gylchoedd cerrig yn ystod Oes yr Haearn, yn enwedig yn Götaland. Ceir rhai yng ngogledd Gwlad Pwyl hefyd. Yng Ngorllewin Affrica, ceir cylchoedd cerrig sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng yr 8fed a'r 12g; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw cylchoedd cerrig Senegambia.

Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus o gylchoedd cerrig mae Côr y Cewri a Long Meg yn Lloegr a Calanais ar ynys Leòdhas yn yr Alban. Mae enghreifftiau yng Nghymru yn cynnwys Meini Hirion, Penmaenmawr a Chylch Cerrig Tan-y-braich ger Llanfairfechan.

Yr Alban[golygu | golygu cod]

Yn ne-ddwyrain yr Alban y ceir y clwstwr mwyaf dwys o gylchoedd cerrig.[2]

Rhai cylchoedd cerrig yn yr Alban
Delwedd Enw Cyfesurynnau
Cylch cerrig Aquhorthies; ger Aberdeen, yr Alban 57°03′N 2°09′W / 57.05°N 2.15°W / 57.05; -2.15 (Cylch cerrig Aquhorthies)
Cylch cerrig Callanish I; yr Alban. Enw Gaeleg: Clachan Chalanais.
Diamedr y cylch: 13m gydag 13 o gerrig.
58°11′N 6°44′W / 58.19°N 6.74°W / 58.19; -6.74 (Meini hirion Callanish)
Cylch cerrig y Deuddeg Apostol, ger Dumfries, yr Alban 55°05′N 3°39′W / 55.09°N 3.65°W / 55.09; -3.65 (Cylch cerrig y Deuddeg Apostol)
Cylch Brodgar, Ynysoedd Erch 59°00′N 3°12′W / 59.00°N 3.20°W / 59.00; -3.20 (Cylch cerrig Brodgar)


Cernyw[golygu | golygu cod]

Ceir tua 380 o gylchoedd yng Nghernyw: 281 ohonyn nhw yng ngwaun Dartmoor a 57 ohonyn nhw yng Ngwaun Bodmin.

Rhai cylchoedd cerrig yng Nghernyw
Delwedd Enw Cyfesurynnau
Cylch cerrig Merry Maidens; Cernyw 50°04′N 5°35′W / 50.06°N 5.58°W / 50.06; -5.58 (Cylch cerrig y Merry Maidens)
Boscawen-Un ger St Buryan. Diamedr y clych: 25m; 19 carreg yn sefyll. 50°05′N 5°37′W / 50.09°N 5.61°W / 50.09; -5.61 (Cylch cerrig Boscawen-Un)
Cylch cerrig Carwynnen ger pentref Mionions; ceir tair cylch. 50°31′N 4°27′W / 50.51°N 4.45°W / 50.51; -4.45 (Cylch cerrig Carwynnen)
Cylch cerrig Tregeseal ger Lannyust (St Just); roedd yma dair cylch ar un cyfnos. 50°07′N 5°41′W / 50.12°N 5.68°W / 50.12; -5.68 (Cylch cerrig Tregeseal)
Cylch cerrig Men an Toll ger Madron; tair carreg. 50°05′N 5°22′W / 50.09°N 5.36°W / 50.09; -5.36 (Cylch cerrig Men an Toll)
Cylch cerrig Castilly Henge ger Bodmin.


Cymru[golygu | golygu cod]

Map Google (uchod) yn dangos lleoliad y cylchoedd cerrig.
Rhai cylchoedd cerrig yng Nghymru
Delwedd Enw Cyfesurynnau
Bryn Gwyn; Ynys Môn 53°10′N 4°18′W / 53.17°N 4.30°W / 53.17; -4.30 (Meini hirion Bryn Gwyn)
Tan-y-braich; Llanfairfechan, Sir Conwy 53°13′N 3°55′W / 53.22°N 3.92°W / 53.22; -3.92 (Cylch Cerrig Tan-y-braich)
Teml Ceridwen; Penmaenmawr, Sir Conwy 53°15′N 3°55′W / 53.25°N 3.91°W / 53.25; -3.91 (Teml Ceridwen)
Cefn Llechen; rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy 53°16′N 3°52′W / 53.26°N 3.87°W / 53.26; -3.87 (Cylch Cerrig Cefn Llechen)
Cerrig Pryfaid; Llanbedr-y-cennin, Sir Conwy 53°13′N 3°55′W / 53.22°N 3.91°W / 53.22; -3.91 (Cylch Cerrig Cerrig Pryfaid)
Bryn Derwydd; Penmaenmawr, Sir Conwy 53°15′N 3°54′W / 53.25°N 3.90°W / 53.25; -3.90 (Cylch Cerrig Bryn Derwydd)
Cefn Maen Amor; rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy 53°14′N 3°53′W / 53.24°N 3.89°W / 53.24; -3.89 (Cylch Cerrig Cefn Maen Amor)
Cefn Llydan; Powys 52°32′N 3°54′W / 52.54°N 3.90°W / 52.54; -3.90 (Cylch Cerrig Cefn Llydan)
Treleddyd Fawr; Sir Benfro 51°54′N 5°18′W / 51.90°N 5.30°W / 51.90; -5.30 (Cylch cerrig Treleddyd Fawr)
Mynydd Bach Trecastell; Llanymddyfri 51°58′N 3°41′W / 51.96°N 3.69°W / 51.96; -3.69 (Cylch Cerrig Mynydd Bach-Trecastell)
Nant Tarw; Brycheiniog 51°55′N 3°43′W / 51.91°N 3.71°W / 51.91; -3.71 (Cylch Cerrig Nant Tarw)
Cerrig Duon; Brycheiniog 51°52′N 3°40′W / 51.87°N 3.66°W / 51.87; -3.66 (Cylch Cerrig Cerrig Duon)
Blaenau; Y Gelli Gandryll 52°01′N 3°06′W / 52.02°N 3.10°W / 52.02; -3.10 (Cylch Cerrig Blaenau)
Banc y Celyn; Erwd, Powys 52°06′N 3°23′W / 52.10°N 3.38°W / 52.10; -3.38 (Cylch Cerrig Banc y Celyn)
Crugiau Bach; Llanwrthwl, Powys 52°14′N 3°34′W / 52.24°N 3.56°W / 52.24; -3.56 (Cylch Cerrig Crugian Bach)
Llorfa; Ystradgynlais 51°49′N 3°46′W / 51.81°N 3.76°W / 51.81; -3.76 (Cylch Cerrig Llorfa)
Hirnant; Blaenrheidol, Ceredigion 52°26′N 3°50′W / 52.43°N 3.83°W / 52.43; -3.83 (Cylch Cerrig Hirnant)
Bryn y Gorlan; Llanddewi Brefi, Ceredigion 52°10′N 3°50′W / 52.17°N 3.83°W / 52.17; -3.83 (Cylch Cerrig Bryn y Gorlan)
Ffridd Newydd; Ceulan-a-Maesmor, Ceredigion 52°30′N 3°55′W / 52.50°N 3.91°W / 52.50; -3.91 (Cylch Cerrig Ffridd Newydd)
Cynant; Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin 52°05′N 3°45′W / 52.08°N 3.75°W / 52.08; -3.75 (Cylch Cerrig Cynant)
Waun Lwyd; Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin 51°54′N 3°44′W / 51.90°N 3.73°W / 51.90; -3.73 (Cylch Cerrig Waun Lwyd)
Creigiau Eglwyseg; ger Llandysilio-yn-Iâl, Sir Ddinbych 52°59′N 3°09′W / 52.99°N 3.15°W / 52.99; -3.15 (Cylch Cerrig Creigiau Eglwyseg)
Bryn Beddau; Clocaenog, Sir Ddinbych 53°04′N 3°25′W / 53.06°N 3.42°W / 53.06; -3.42 (Cylch Cerrig Bryn Beddau)
Nant Croes-y-wernen; Cynwyd, Sir Ddinbych 52°56′N 3°20′W / 52.94°N 3.34°W / 52.94; -3.34 (Cylch Cerrig Nant Croes-y-wernen)
Penbedw, Nannerch; Nannerch, Sir y Fflint 53°12′N 3°14′W / 53.20°N 3.24°W / 53.20; -3.24 (Cylch Cerrig Penbedw Park)
Moel Tŷ Ucha; Llandrillo, Sir Ddinbych 52°55′N 3°24′W / 52.92°N 3.40°W / 52.92; -3.40 (Cylch Cerrig Moel Ty-Uchaf)
Tyfos; rhwng Cynwyd a Llandrillo yn Sir Ddinbych 52°56′N 3°26′W / 52.93°N 3.44°W / 52.93; -3.44 (Cylch Cerrig Tyfos)
Cerrig Arthur; Abermaw, Gwynedd 52°44′N 4°01′W / 52.74°N 4.02°W / 52.74; -4.02 (Cylch Cerrig Cerrig Arthur)
Llecheiddior; ger Dyffryn Ardudwy, Gwynedd 52°46′N 4°03′W / 52.77°N 4.05°W / 52.77; -4.05 (Cylch Cerrig Llecheiddior)
Cerrig Hengwm; ger Dyffryn Ardudwy, Gwynedd 52°46′N 4°03′W / 52.77°N 4.05°W / 52.77; -4.05 (Cylch Cerrig Hengwm)
Eglwys Gwyddelod; ger Tywyn, Gwynedd 52°35′N 3°58′W / 52.58°N 3.97°W / 52.58; -3.97 (Cylch Cerrig Eglwys Gwyddelod)
Rhos-y-beddau; Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys 52°52′N 3°23′W / 52.86°N 3.39°W / 52.86; -3.39 (Cylch Cerrig Rhos-y-Beddau)
Kerry Hill; ger Ceri, Powys 52°28′N 3°14′W / 52.46°N 3.24°W / 52.46; -3.24 (Cylch Cerrig Bryn Ceri)
Cerrig Caerau; Llanbrynmair, Powys 52°35′N 3°37′W / 52.59°N 3.62°W / 52.59; -3.62 (Cylch Cerrig Ceffig Caerau)
Cerrig Lled Croen-yr-Ych; Llanbrynmair, Powys 52°35′N 3°37′W / 52.59°N 3.61°W / 52.59; -3.61 (Cylch Cerrig Lled Croen-yr-Ych)
Cerrig y Capel; ger Dwyriw, Powys 52°35′N 3°28′W / 52.58°N 3.47°W / 52.58; -3.47 (Cylch Cerrig Y Capel)
Llyn y Tarw; Aberhafesb, Powys 52°34′N 3°26′W / 52.56°N 3.43°W / 52.56; -3.43 (Cylch Cerrig Llyn y Tarw)
Cefn Llydan; Tregynon, Powys 52°34′N 3°23′W / 52.56°N 3.39°W / 52.56; -3.39 (Cylch Cerrig Cefn Llydan)
Cwm Rhiwiau; ger Llangynog, Powys 52°52′N 3°23′W / 52.86°N 3.39°W / 52.86; -3.39 (Cylch Cerrig Cwm Rhiwiau)
Mynydd Llwyd; Llanfair Is Coed ger Caerwent, Sir Fynwy 51°37′N 2°49′W / 51.62°N 2.82°W / 51.62; -2.82 (Cylch Cerrig Mynydd Llwyd)


Iwerddon[golygu | golygu cod]

Rhai cylchoedd cerrig yn Iwerddon
Delwedd Enw Cyfesurynnau
Ardgroom De-Or Cylch a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Canfea"; mae wedi'i leoli
i'r de-orllewin o bentref Ardgroom ar bentir Bara.
51°44′N 9°53′W / 51.73°N 9.89°W / 51.73; -9.89 (Cylch Cerrig Ardgroom)
Beltany Cylch o bron i 80 o gerrig yn Swydd Donegal 54°51′01″N 7°36′17″W / 54.8504°N 7.6046°W / 54.8504; -7.6046 (Cylch Cerrig Beltny)
Cylch cerrig Drombeg – Cylch a leolwyd i'r gorllewin o bentref Rosscarbery. 51°34′N 9°05′W / 51.56°N 9.08°W / 51.56; -9.08 (Cylch Cerrig Dromberg)
Carrigagulla – 18 o gerrig wedi'u lleoli i'r gogledd o bentref Ballinagree. 51°59′N 8°53′W / 51.99°N 8.89°W / 51.99; -8.89 (Cylch Cerrig Carrigagulla)
Knocknakilla – Cylch wedi'i leoli rhwng Macroom a Millstreet. 52°00′N 8°53′W / 52.00°N 8.89°W / 52.00; -8.89 (Cylch Cerrig Knocknakilla)
Glantane east – rhwng Macroom a Millstreet. 52°00′N 9°02′W / 52.00°N 9.04°W / 52.00; -9.04 (Cylch Cerrig dwyreiniol Glantane)
Cylch cerrig Templebryan – rhwng Bandon a Millstreet. 51°38′N 8°53′W / 51.64°N 8.88°W / 51.64; -8.88 (Cylch Cerrig dwyreiniol Glantane)
Lisseyviggeen – ger Killarney. Yn lleol cânt eu galw'n "Saith Chwaer".


Lloegr[golygu | golygu cod]

Dim ond yng ngogledd a gorllewin Lloegr y ceir cylchoedd cerrig; heb gynnwys Cernyw ceir ychydig dros gant; mae 62 ohonyn nhw yn Cumbria. Mae llawer o gylchoedd pren (henges) yn ne-ddwyrain Lloegr, fodd bynnag. Ymhlith y cylchoedd cerrig mwyaf y mae:

Rhai cylchoedd cerrig yn Lloegr
Delwedd Enw Cyfesurynnau
Cylch cerrig Swinside; Cumbria sydd â diamedr o 26.8m, ac sy'n cynnwys 55 carreg. 54°17′N 3°16′W / 54.28°N 3.27°W / 54.28; -3.27 (Cylch Cerrig Swinside)
Arbor Low; Swydd Derby. 50 carreg calchfaen, pob un yn llorweddol. 53°06′N 1°27′W / 53.10°N 1.45°W / 53.10; -1.45 (Cylch cerrig Arbour Low)
Cylch cerrig Doll Tor; ger Birchover, Swydd Derby. Chwe charreg o'r Oes Efydd. 53°10′N 1°38′W / 53.16°N 1.64°W / 53.16; -1.64 (Cylch cerrig Doll Tor)
Castlerigg; Cumbria. Diamedr y cylch: 33m, gyda 38 carreg. 54°36′N 3°05′W / 54.60°N 3.09°W / 54.60; -3.09 (Cylch cerrig Castlerigg)
Long Meg; Diamedr o 100m yn ei anterth; 51 o gerrig.]] 54°43′N 2°40′W / 54.72°N 2.66°W / 54.72; -2.66 (Cylch cerrig Long Meg)
Avebury, Swydd Wilton, de-orllewin Lloegr. Cylch cerrig mwyaf Ewrop. 51°25′N 1°51′W / 51.42°N 1.85°W / 51.42; -1.85 (Cylch cerrig Avebury)
Côr y Cewri, Swydd Wilton; 51°06′N 4°18′W / 51.10°N 4.30°W / 51.10; -4.30 (Côr y Cewri)
Cylch cerrig Withypool, Gwlad yr Haf. 51°05′47″N 3°39′37″W / 51.0963°N 3.6604°W / 51.0963; -3.6604 (Cylch cerrig Withypool)


Llydaw[golygu | golygu cod]

Rhai cylchoedd cerrig yn Llydaw
Delwedd Enw Cyfesurynnau
Cylch cerrig Peulvanoù Kerbourgneg; Sant-Pêr-Kiberen[3] sydd â diamedr o 26.8m, ac sy'n cynnwys 27 carreg (a 23 maen hir). 47°31′N 3°07′W / 47.51°N 3.12°W / 47.51; -3.12 (Cylch Cerrig Peulvanoù Kerbourgneg)
Cylch cerrig Kergonan; Enizenac'h[4], sydd â diamedr o 100 metr, ac sy'n cynnwys 24 carreg
Cylch cerrig Ynys Ar Lannig; Mor Bihan[5], dau gylch cerrig, sy'n cynnwys 49 carreg yn gyfangwbl


Dyddio radiocarbon[golygu | golygu cod]

Ers y 1950au mae archaeolegwyr wedi carbonddyddio samplau oddeutu'r cerrig er mwyn dyddio'r cylch cerrig. Y cylch hynaf sydd wedi'i ddyddio (yn 2000) ydy Cylch cerrig Lochmaben yn yr Alban sydd wedi'i dyddio yn 2525 ± 85 cc. Mae'r cylch ieuengaf i gael ei godi, fodd bynnag yn dod o Iwerddon: o Dromberg yn Swydd Cork (790 ± 80 cc) a'r cylch pum carreg yn Cashelkeety, Swydd Kerry (715 ± 50 bc).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Burl, Aubrey (2000). The Stone Circles of Britain, Ireland and Brittany. New Haven and London: Yale University Press. ISBN 978-0300083477.
  2. "Gwefan Megalith Map". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-28. Cyrchwyd 2012-01-02.
  3. Gwefan Ysbryd Llydaw; adalwyd 30/08/2012[dolen marw]
  4. "Gwefan Morbihan; adalwyd 01/04/2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-19. Cyrchwyd 2014-04-01.
  5. Gwefan Paysages de Mégalithes; adalwyd 02/04/2014